UAC yn pwysleisio’r angen am gynllunio wrth gefn mewn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet

Mewn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi pwysleisio bod angen cynllunio ar frys er mwyn lleihau effeithiau niweidiol posibl Brexit caled.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Mae Llywodraeth Cymru ac UAC yn cytuno'n llwyr y byddai caniatáu i ni adael yr UE heb gadw mynediad llawn i'r Farchnad Sengl yn drychinebus.

“Cawsom drafodaeth onest iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y risgiau o Brexit caled ac mae damcaniaethau cyfredol y gallai canlyniad o'r fath fod yn fwy tebygol nag a oedd yn wir o'r blaen."

Dywedodd Mr Roberts y gallai'r rhwystrau rhag gwerthu i farchnad yr UE oherwydd Brexit caled cael effaith debyg ar brisiau anifeiliaid i'r gwaharddiadau allforio a gyflwynwyd yn 2001 a 2007 o ganlyniad i Glwy’r Traed a'r Genau.

"Pan ddigwyddodd Clwy’r Traed a'r Genau, nid oedd amser i baratoi ac roedd y canlyniadau'n ddifrifol.  Y tro hwn, mae gennym amser o leiaf i baratoi cymaint ag sy'n bosibl, ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i edrych ar ffyrdd i leihau’r effeithiau.

"Nid oes un elfen o'n diwydiant na fydd yn cael ei effeithio oherwydd methu cytuno ar y cytundeb cywir gyda'r UE. Bydd hi’n fwy anodd cael mynediad i farchnadoedd, a bydd y gadwyn gyflenwi yn cael ei effeithio, nid dim ond bwyd - ond am gyflenwadau meddygol a milfeddygol.

Byddwn yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod mesurau mewn lle er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i'n ffermydd teuluol yng Nghymru."