Cynhadledd tywydd yn cael ei groesawu fel cam pwysig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi disgrifio cynhadledd tywydd Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru fel cam pwysig o ran gweithredu i leihau effeithiau presennol y tywydd, a’r rhai sydd i ddod yn y dyfodol ar ddiwydiant amaethyddol Cymru.

Yn siarad ar ôl y gynhadledd, a gadeiriwyd gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, a mynychodd sefydliadau ffermio ac elusennau gwledig, swyddogion y llywodraeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru ac eraill, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Mae Llywodraeth Cymru wedi llacio nifer o reolau yn sgil y tywydd eithafol, a hynny yn dilyn ein ceisiadau ym mis Mehefin, ac mi wnaethom ni alw am y gynhadledd hon ar ddechrau mis Gorffennaf.

"Rydym wedi croesawu’r cam nesaf yma, a thrafodwyd nifer o gamau pellach yn y cyfarfod.

"Yn benodol, pwysleisiwyd yr angen i gymryd camau pendant cyn gynted ag y bo modd o ran ymlacio rheolau a mesurau eraill, gan fod ffermwyr yn brwydro pob dydd er mwyn darparu dŵr ar gyfer da byw ac mae porthiant hanfodol y gaeaf yn cael ei ddefnyddio ar ffermydd ledled Cymru."

Dywedodd Mr Roberts fod nifer o’r camau yn rhai roedd UAC wedi annog Llywodraeth Cymru i’w hystyried, gyda'r bwriad o wneud penderfyniadau a chyhoeddiadau dros y dyddiau nesaf.

"Dros y mis diwethaf rydym wedi rhoi manylion i Lywodraeth Cymru o’r problemau y mae ffermwyr o gwmpas Cymru yn eu hwynebu, yn ogystal â chamau y gallai'r Llywodraeth eu cymryd i helpu'r sefyllfa.

"Rydym yn croesawu'r ffaith bod rhai o'r camau hyn bellach yn digwydd, ond roeddem wedi gofyn am y cyfarfod hwn er mwyn sicrhau y gellid ymchwilio pob cam posib yn iawn."

“Nawr bod hyn yn digwydd o’r diwedd, gobeithio y byddwn yn gweld llawer mwy o ddatblygiadau.”