UAC yn anrhydeddu ffermwr ac entrepreneur o Orllewin Cymru gyda gwobr allanol am wasanaethau i amaethyddiaeth

 

Mae’r ffermwr ac entrepreneur o Orllewin Cymru, Brian Jones a sefydlodd Castell Howell yn yr 1980au cynnar, wedi cael ei gydnabod am ei wasnaethau i amaethyddiaeth gyda gwobr allanol Undeb Amaethwyr Cymru am wasnanaethau i amaethyddiaeth.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae Brian wedi gwneud cymaint dros amaethyddiaeth ac mae ei angerdd dros Gymru fel cyrchfan bwyd yn heintus.  Mae ei ymrwymiad i i Gymru a’i frand Celtic Pride yn esiampl o hynny a dylai fod yn esiampl i eraill. Mae'r wobr yn hollol haeddiannol ac rydym yn diolch i Brian am bob peth y mae'n ei wneud.”

Dechreuodd Brian Jones, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell Cyf, drwy werthu ieir, ac mae’r busnes wedi parhau i dyfu o nerth i nerth.

Bwydydd Castell Howell yw un o’r prif gyflogwyr yn Sir Gaerfyrddin, yn cyflogi oddeutu 670 o staff ac yn gyfrifol am greu trosiant o £110 miliwn.

Mae Brian yn frwdfrydig dros roi Cymru ar y map bwyd, ac yn ymfalchïo mewn prynu a hyrwyddo cynnyrch brodorol, ac yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd Cymreig gan gynnwys cig eidion Celtic Pride.

Fe'i dewiswyd i gynrychioli'r diwydiant bwyd fel Llysgennad Gwir Flas ar gyfer 2006-07 ac yn 2008, cafodd ei gynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd a cafodd yr MBE am ei wasanaethau i'r diwydiant bwyd.

Mae Brian hefyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol ac yn gyn- Lywydd Sioe Frenhinol Cymru. Gwnaethpwyd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth yn 2014.

"Mae ei haelioni a chefnogaeth yn ymestyn i bob agwedd o’r gymuned p'un a yw'n ddigwyddiadau artistig, chwaraeon, gwledig, neu’n codi arian ar gyfer elusennau lleol. Mae'n un o hoelion wyth y diwydiant amaethyddol,  nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin, ond drwy Gymru gyfan," ychwanegodd Glyn Roberts.