UAC Ynys Môn yn edrych ymlaen at ddau ddiwrnod prysur o sioe sirol

Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at sioe sir brysur (Mawrth 14 - Mercher 15 Awst), sydd i’w chynnal ar Gae Sioe Mona ac yn estyn croeso cynnes i bawb.
 Dywedodd Swyddog Gweithredol cangen UAC Ynys Môn Alaw Jones: "Rydym yn edrych ymlaen at sioe sir brysur le byddwn yn trafod #AmaethAmByth a #CyllidFfermioTeg gyda'n haelodau a'n gwleidyddion etholedig ac yn estyn croeso cynnes i bawb. Gobeithio bydd nifer ohonoch yn medru ymuno â ni am sioe ardderchog arall.”

Bydd Arfon Jones Prif Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn bresennol rhwng 11yb a 1yp ar y dydd Mawrth, yn ogystal â Sarah Wedge, o Davis Meade Property Consultants, un o asiantau tir yr Undeb, er mwyn trafod ceisiadau cynllunio ac i ateb unrhyw gwestiynau. Bydd Keith Owen o ADAS ar y stondin o 1yp ymlaen er mwyn ateb cwesitynau ar lygredd amaethyddol.

Bydd AC Gogledd Cymru Mark Isherwood yn ymweld â’r stondin dydd Mawrth ac Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths AC dydd Mercher yn ogystal ag AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.

Bydd Uwch Swyddog Polisi UAC Dr Hazel Wright ar y stondin drwy gydol dydd Mercher i wneud cyflwyniad ar TB ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Dywedodd Swyddog Gweithredol cangen UAC Ynys Môn Euros Jones: “Bydd triawd lleol o Fôn ‘Edern’ yn ein diddanu ar y prynhawn dydd Mawrth a’r cerddor Gwilym Bowen Rhys ar y prynhawn dydd Mercher, felly dewch i ymuno gyda ni.”

Bydd swyddogion yr Undeb yn cyflwyno rhosglymau UAC i bob tywysydd ifanc dros gyfnod y sioe. Hefyd, bydd yna raffl, cystadleuaeth dyfalu enw creadur arbennig a chystadleuaeth lliwio i’r plant.

“Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n sioe Ynys Môn gyntaf gyda’r Undeb, felly dewch i’n gweld am sgwrs, paned o de, a theisen,” ychwanegodd Alaw ac Euros.