UAC yn atgoffa ffermwyr i 'beidio dioddef yn dawel’ ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

 

Ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (Hydref 10), mae ffermwyr a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu hatgoffa bod hi’n ‘iawn i ddweud’ ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn eu hannog i beidio â chuddio problemau oddi wrth eu hunain, eu teuluoedd a'u ffrindiau ac i siarad am eu teimladau personol.

Gwnaeth UAC ymroddiad yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2017 i barhau i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig, ac felly mae'n adnewyddu'r alwad i'r rhai a allai fod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl i ofyn am help.

Y thema eleni a osodwyd gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd yw pobl ifanc ac iechyd meddwl mewn byd sy'n newid. Mae ein pobl ifanc yn wynebu dyfodol ansicr ac mae eu byd yn newid yn gyflym, a bydd unrhyw amheuaeth yn peri pryder a straen i lawer.

"Mae eu busnesau ffermio dan fygythiad, nid yw sefyllfa ein marchnadoedd allforio ar ôl Mawrth 2019 yn glir ac nid yw cefnogaeth i’r diwydiant wedi cael ei gadarnhau eto. Ychwanegwch at hynny'r broblem gynyddol o TB ac mae’r sefyllfa’n dorcalonnus," meddai Llywydd yr Undeb Glyn Roberts.

Mae’n rhaid i ni dorri'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, felly os ydych chi'n teimlo'n fregus, o dan bwysau neu’n bryderus – peidiwch dioddef yn dawel, siaradwch â rhywun. Mae hyn yn wir bob amser. Mae angen i ffermwyr a theuluoedd amaethyddol barhau i siarad yn agored am yr hyn maent yn ei deimlo.

Mae UAC yn annog pawb sy'n poeni am eu hiechyd meddwl neu rywun sy’n agos iddynt, i ofyn am help gan y Farming Community Network, Tir Dewi, DPJ Foundation, Mind Cymru neu Linell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru.