Cofiwch nid yw da byw ac anifeiliaid anwes yn hoffi Tachwedd 5ed

 

Gyda noson tân gwyllt ar y gorwel, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog pobl i gofio bod tân gwyllt a llusernau awyr yn codi ofn ar dda byw ac anifeiliaid anwes ac yn atgoffa am beryglon coelcerthi hefyd.

“Gofynnwn i bobl gofio’r cod diogelwch tân gwyllt bob amser, yn enwedig dros gyfnod tân gwyllt a chalan gaeaf er mwyn lleihau’r perygl i dda byw, anifeiliaid anwes a phobl,” dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy.

"Mae amser hyn o'r flwyddyn yn llawn peryglon ar gyfer anifeiliaid a phlant - felly peidiwch â gadael i esgeulustod ac anwybodaeth arwain at sefyllfa drychinebus," ychwanegodd Mrs Priddy.

Yn gyffredinol, nid yw anifeiliaid yn hoffi sŵn tân gwyllt ac mae modd iddynt ddychryn yn ystod y cyfnod hwn o'r flwyddyn. Felly, mae UAC yn annog pobl i fod yn ystyriol a pheidio â'u tanio’n agos at dda byw.

"Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod eich anifeiliaid anwes wedi cael eu microsglodio gan filfeddyg a bod y manylion ar y sglodion yn gywir cyn noson tân gwyllt, rhag ofn iddynt fynd ar goll," meddai Mrs Priddy.

Mae UAC yn awgrymu bod pobl yn ymweld ag arddangosfa swyddogol, ond os ydych chi'n cael arddangosfa gartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cod tân gwyllt bob amser i leihau'r straen ar anifeiliaid y fferm a phlant.

Mae hefyd yn ddoeth rhoi rhybudd ychydig o ddyddiau ymlaen llaw i'ch cymdogion os ydych yn bwriadu cynnal arddangosfa tân gwyllt, yn enwedig os ydynt yn hŷn, gyda phlant bach neu anifeiliaid anwes.

“Rydym hefyd yn atgoffa pobl fod llusernau awyr bellach wedi cael eu gwahardd gan bob cyngor ledled Cymru, gan eu bod yn beryglus i anifeiliaid ac, wrth gwrs, yn risg sylweddol o ran diogelwch tân," ychwanegodd Mrs Priddy.