Cydnabod ffermwr llaeth o Sir Gaernarfon gyda Gwobr UAC-HSBC am Wasanaeth Rhagorol i Ddiwydiant Llaeth Cymru

Bob blwyddyn mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad mawr tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan annatod o'r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Eleni, mae’r Undeb yn falch o fedru anrhydeddu Aled Jones, ffermwr llaeth o Hendy, ger Caernarfon, ac sy’n Gymrawd o’r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol gyda Gwobr UAC – HSBC am Wasanaeth Rhagorol i Ddiwydiant Llaeth Cymru.

 

Mae Aled yn ymdrechu bob amser i wella safonau rheoli fferm wrth gymryd ei gyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif.

 

Nid oes byth eiliad dawel ar y fferm, ac yn 2018, cwblhaodd y busnes teuluol fuddsoddiad mewn parlwr cylchdro sydd wedi cynyddu'r amseroedd mewnbwn ac effeithlonrwydd y gwartheg godro yn sylweddol. Mae gwyddoniaeth, thechnolegau a syniadau newydd wastad wedi bod o ddiddordeb mawr i Aled, ac mae bob amser yn barod i dreialu dulliau newydd er mwyn newid ei fusnes.

 

O dan grant Cynllun Lleihau Carbon Amaethyddol Glastir, buddsoddwyd mewn dyfeisiau arbed ynni (adfer gwres a phympiau gwagod ar alw) a thrin slyri. Gwnaed arbedion yn y defnydd o wrtaith nitrogen trwy ddefnydd gwell o slyri.

 

Hefyd, gweithredir protocolau llym ar brofi clefydau ar y fferm er mwyn cyflawni safonau iechyd uchel.

Mae Aled wastad yn awyddus i ddysgu a datblygu sgiliau newydd er mwyn cynyddu ei fusnes ac yn mynychu diwrnodau agored a chynadleddau yn rheolaidd i ddysgu am ddatblygiadau newydd. Yn yr un modd, mae Aled bob amser yn barod i rannu ei brofiad gydag eraill ac yn cynnal ymweliadau fferm yn ogystal â mynychu grwpiau trafod gan ystod eang o sefydliadau. Mae Hendy hefyd wedi bod yn fferm Arddangos Cyswllt Ffermio.

 

Mae ganddo radd mewn Amaethyddiaeth a Rheolaeth Fferm o Brifysgol Reading, ac fel rhan o'i amser yn Reading cafodd brofiad ar ffermydd eraill, gan gynnwys amser byr yn gweithio ar fferm yn Ffrainc.

 

Mae Aled wedi bod yn aelod ffyddlon o Fwrdd Llaeth NFU Cymru, yn Gadeirydd y Bwrdd hwn o 2012 i 2018, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Llaeth NFU.

 

Yn ystod ei Gadeiryddiaeth, roedd yn hyrwyddwr angerddol dros ddiwydiant llaeth Cymru, gan deithio’r wlad yn cwrdd â gwrando ar farn ffermwyr llaeth Cymru a delio â nifer o geisiadau o’r cyfryngau masnach, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cwmpasu ystod eang o faterion a phynciau.

 

Yn aml, gofynnwyd iddo amddiffyn y diwydiant yn erbyn rhai ymosodiadau milain gan sefydliadau sy'n ceisio amharchu’r diwydiant llaeth. Mewn ffordd bwyllog ac awdurdodol mae Aled bob amser wedi trosglwyddo dadl resymegol, cyson a phwerus yn tynnu sylw at rinweddau cadarnhaol llaeth a’r diwydiant llaeth yn gyffredinol.

 

Yn fuan ar ôl cymryd drosodd fel Cadeirydd y Bwrdd Llaeth yn 2012, cymerodd rhan flaenllaw iawn yn yr ymgyrch ‘SOS Dairy’, ymgyrch effeithiol a llwyddiannus y diwydiant ar y cyd gyda'r nod o sicrhau pris llaeth teg i ffermwyr.

 

Llwyddodd yr ymgyrch i wrthdroi nifer o doriadau prisiau llaeth arfaethedig a bu'n gweithio ar sefydlu rhai amodau allweddol ar gyfer datblygu diwydiant cynaliadwy.

 

Hefyd bu’n allweddol wrth sefydlu grŵp Agriscop yng Nghymru ac ymchwilio i’r posibilrwydd o Sefydliad Cynhyrchwyr Llaeth yng Nghymru. Gan weithio gyda ffermwyr tebyg, NFU Cymru a UAC- mae'r grŵp yn parhau i archwilio’r posibilrwydd o Sefydliad Cynhyrchwyr Llaeth.

 

Mae'r grŵp wedi ymweld â'r Almaen i weld sut mae Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth llwyddiannus yn gweithredu, maent wedi cyhoeddi adroddiad ac yn parhau i ymchwilio’r potensial o sefydlu sefydliad o'r fath yng Nghymru er budd cynhyrchwyr llaeth Cymru.

 

Aled oedd Cadeirydd NFU Cymru Canolbarth Gwynedd o 2013 - 2015, mae'n aelod o Gyngor NFU Cymru a Chyngor NFU ac ym mis Ionawr 2018 etholwyd ef yn Ddirprwy Lywydd NFU Cymru.

 

Mae Aled yn ymwneud yn helaeth â bridio a geneteg pedigri, yn Gadeirydd y Gwasanaethau Gwybodaeth Gwartheg ac yn aelod o fwrdd Holstein UK.  Mae'n cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif ac yn treulio cryn dipyn o amser yn cynrychioli buddiannau cymdeithas y brîd a'r Gwasanaethau Gwybodaeth Gwartheg. Mae sgiliau Aled hefyd yn cael eu defnyddio'n eang fel beirniad mewn sioeau niferus ar draws y wlad.

 

Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth Llaeth Llywodraeth Cymru ers 2015 ac mae'n Fentor o dan gynllun cymorth i Newydd-ddyfodiaid Llywodraeth Cymru.

 

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Gyda’r wobr hon, rydym yn cydnabod y rhai hynny sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth a’r rhai hynny sydd wedi dod yn rhan annatod o’r diwydiant llaeth yng Nghymru.  Mae Aled yn un o hoelion wyth y diwydiant hwn ac yr wyf yn ei longyfarch ar ei gyflawniadau. Mae ei ymroddiad a'i ymrwymiad yn ysbrydoliaeth a dymunaf yn dda iddo yn y dyfodol.”

 

Mae Aled yn ymuno a rhestr o gyn enillwyr sy’n cynnwys cyn Lywydd UAC Sir Gaerfyrddin Ogwyn Evans (2008); ffermwr o Sir Gaerfyrddin Bryan Thomas - cyn aelod o gyngor Cymdeithas Holstein Friesian a sylfaenydd Sioe Laeth Cymru (2009), ffermwr llaeth o Sir Fflint Terrig Morgan, sylfaenydd y grŵp trafod llwyddiannus ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ifanc yn Sir Fflint sydd bellach yn cael ei redeg gan DairyCo, “The Udder Group” (2010); Cadeirydd DairyCo Tim Bennett (2011); cyn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth UAC Eifion Huws o Ynys Môn (2012); cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Lloegr a Chymru Mansel Raymond (2013); ffermwr o Wynedd Rhisiart Tomos Lewis (2014); perchennog Daioni Organig Laurence Harris (2015), Gareth Roberts o Llaeth y Llan (2016) a cyn Is Lywydd UAC Brian Walters o fferm Clunmelyn (2017).