Anrhydeddu cyflwynwraig Ffermio gyda Gwobr UAC - Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig

Mae Meinir Howells, cyflwynwraig Ffermio, wedi cael ei chydnabod am ei gwasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru - Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.

 

Cafodd Meinir ei magu ar Fferm Maesteilo yn Capel Isaac, ger Llandeilo, a mynychodd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfynydd ac Ysgol Tre-gib, Llandeilo, lle'r oedd hi'n brif ferch.

 

Graddiodd o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 2007 a dechreuodd weithio fel ymchwilydd i Telesgop ym mis Mehefin 2007, ac mae wedi cyfarwyddo rhaglenni megis Ffermio a Digwyddiadau ers 2009.

 

Fel cyflwynydd, mae wedi cefnogi ffermwyr Cymru, ac yn sicrhau bod nhw’n cael sylw’r rhai hynny sy’n gyfrifol am y diwydiant.  Mae wedi cyfweld David Cameron yn ystod ymgyrch y Refferendwm yn 2016, a dros y blynyddoedd mae hefyd wedi croesholi’r Prif Weinidog Carwyn Jones, a gweinidogion ffermio, gan gynnwys John Griffiths, Alun Davies a Lesley Griffiths.

 

Ers oedran cynnar iawn, mae Meinir wedi gweithio ar y fferm deuluol ar bob cyfle posib ac yn mwynhau arddangos ei diadell ei hun o ddefaid Balwen mewn nifer o sioeau trwy gydol yr haf.

 

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd yn agos iawn at galon Meinir, ac mae’n teimlo'n ddyledus i sefydliad sydd wedi rhoi cymaint o brofiadau bythgofiadwy iddi ac wedi gwneud ffrindiau am oes.

 

Cymerodd rhan mewn croestoriad eang o gystadlaethau, gan gynnwys siarad cyhoeddus, hanner awr o adloniant, beirniadu stoc a chneifio.

 

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Bu llawer o faterion dadleuol dros y blynyddoedd diwethaf, TB, Brexit, a'r Taliad Sengl - ac mae Meinir wedi holi’r cwestiynau anoddaf, ac yn cael yr atebion bob amser.  Mae hi wedi bod yn llais gwych ar ran ffermwyr, ac mae ei angerdd am y diwydiant yn amlwg.

 

“Mae Meinir wedi cyfrannu cymaint i ddiwydiant ffermio Sir Gaerfyrddin trwy ei gyrfa broffesiynol a’i gwaith gwirfoddol gyda'r CFfI - a hyn i gyd oherwydd yr angerdd dwfn sydd ganddi ar gyfer amaethyddiaeth.  Mae Meinir yn enillydd teilwng iawn.”