Rhaid i ddiogelwch fferm barhau i fod yn flaenoriaeth i’r diwydiant

Mae angen i ffermwyr a'r rheiny sy'n gweithio o fewn y diwydiant amaethyddol sicrhau bod diogelwch fferm yn parhau yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a’u bod nhw’n cydymffurfio â'r rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol, rhybuddia Undeb Amaethwyr Cymru.

Daw’r rhybudd yn sgil yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn atgoffa pawb y bydd rhaglen o arolygiadau yn adolygu safonau iechyd a diogelwch ar ffermydd ar draws y wlad, ac y bydd yr arolygiadau'n dechrau'n fuan.

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, bydd yr arolygiadau'n sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am amddiffyn eu hunain a’u gweithwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn atal marwolaeth, anafiadau ac afiechyd. Os nad ydyn nhw, ni fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn meddwl dwywaith cyn gweithredu er mwyn sicrhau bod gwelliannau yn digwydd.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones, sy'n cynrychioli UAC ym Mhartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: "Cafodd 33 o bobl eu lladd mewn amaethyddiaeth ledled Prydain yn 2017/18 - tua 18 gwaith yn fwy na'r gyfradd anafiadau angheuol yn y diwydiant.

"Mae hynny'n golygu bod 33 o deuluoedd wedi colli un annwyl iddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod bron i un person yr wythnos wedi cael ei ladd o ganlyniad uniongyrchol i waith amaethyddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac mae llawer mwy wedi cael eu hanafu'n ddifrifol neu’n dioddef o salwch o ganlyniad i’w gwaith. Mae ystadegau pellach yn dangos bod bron i hanner y gweithwyr amaethyddol a laddwyd dros 65 oed.

"Nid yw bywyd byth yr un fath eto i aelodau'r teulu yn sgil marwolaeth sy'n gysylltiedig â gwaith, neu i'r rhai sy'n gofalu am rywun â salwch hirdymor neu anaf difrifol a achosir gan eu gwaith.

"Gyda hyn mewn golwg, mae'r Undeb yn parhau i fod yn ymrwymedig i dynnu sylw at arferion gwell i helpu ffermwyr i osgoi damweiniau neu ddamweiniau fferm angheuol, ond ni ellir pwysleisio digon mai'r person sy'n gyfrifol am ddiogelwch fferm yw'r person hwnnw.

"Mae yna rai enghreifftiau gwael o ran diogelwch fferm ymhlith y cyhoedd, felly wrth i chi ddechrau blwyddyn newydd ar y fferm – gwnewch adduned i’ch hunan a’ch cyd weithiwr, i gadw pawb yn ddiogel.”

Diwedd