Diddordeb, angerdd, penderfyniad a brwdfrydedd

Mae ysgrifennu’r golofn hon yn gwneud i rywun sylweddoli pa mor gyflym mae mis yn mynd! Yn wahanol i’r arfer, mae yna dipyn o grafu pen wedi bod cyn penderfynu testun y golofn tro yma.

Ond, mi gefais syniad bach ar ôl bod yn rhan o Gynhadledd Fusnes yr Undeb mis diwethaf.  Fel staff, ein gweledigaeth yw “Yr Undeb: Unedig – fel Un” sy’n arwain yn y pen draw at weledigaeth yr Undeb sef “Creu Ffermydd Teuluol Ffyniannus a Chynaliadwy yng Nghymru.  Y fferm deuluol sydd wrth wraidd yr FUW ac sy’n rhan mor bwysig ac allweddol o’n cymunedau ehangach.

Felly, roedd testun Cornel Clecs mis yma reit o dan fy nhrwyn – y fferm deuluol!  Y diffiniad swyddogol o fferm deuluol yw: “Fferm sy'n eiddo ac yn cael ei weithredu gan deulu, yn enwedig un sydd wedi cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall”.

Teulu bach o dri yw fferm deuluol ni, sydd wedi bod ym meddiant teulu’r gŵr ers tair cenhedlaeth.  Rwyf wedi cyfeirio yn y gorffennol bod gan y tri ohonom ni ran weithgar ym musnes y fferm, boed hynny’n ymarferol tu allan, neu o flaen y gliniadur yn y tŷ.  Gyda’r tymor wyna bellach yn ei anterth, mae pawb yn treulio’r rhan fwyaf o amser tu allan yn sicrhau bod popeth yn mynd mor llyfn â phosib.

Cyfeiriaf yn aml at Ladi Fach Tŷ Ni yng Nghornel Clecs, ac rwyf am ganolbwyntio am ychydig arni hi, yn enwedig gan ein bod newydd ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Rydym ar drothwy’r newid mwyaf yn hanes amaethyddiaeth ers degawdau, a neb yn siŵr iawn beth sy’n digwydd o awr i awr yn sgil Brexit.  Ond, o edrych ar ein fferm deuluol ni, mae’r dyfodol yn edrych yn weddol ddiogel, yn nwylo’r bedwaredd genhedlaeth a hynny diolch i Ladi Fach Tŷ Ni.

Ers iddi fod yn ddigon hen i fedru bod allan gyda ni ar glos y fferm, mae gwaith y fferm wedi dod yn ail natur iddi.  Un o’r atgofion cyntaf ohoni yw mynd a’i bwced bach coch i gario dŵr i’r llociau bach adeg wyna – tasg lafurus sy’n cymryd amser prin i oedolyn, ond iddi hi, roedd yn meddwl y byd, cael bod yn “ffermwr iawn” ac yn rhoi help llaw yn ei ffordd fach hi.

Dros y blynyddoedd mae hoffter Ladi Fach Tŷ Ni o ddefaid wedi datblygu a bellach, mae hi wedi cymryd diddordeb mawr yn y maes cystadlu.  Hap a damwain llwyr oedd hyn tair blynedd yn ôl wedi iddi dderbyn dau oen bach swci Jacob ac mae gweddill y stori wedi datblygu ers hynny.  Fel rhieni, gwelsom ei diddordeb, yr angerdd, y penderfyniad a’r brwdfrydedd a sefydlwyd diadell swyddogol o’r enw Gwenerin, menter Ladi Fach Tŷ Ni, ac rydym yn ei chefnogi ymhob ffordd posib.

Un yw Ladi Fach Tŷ Ni ymhlith cenhedlaeth o bobl ifanc brwdfrydig sy’n awchu i dorri tir newydd o fewn ein diwydiant, ac mae’n bwysig rhoi pob cefnogaeth posib iddynt – nhw yw’r dyfodol. Rwy’n credu dyma’r ffordd bwysicaf o sicrhau a diogelu dyfodol y fferm deuluol a fydd yn cadw’n cymunedau gwledig yn llawn bwrlwm. Ymlaen i ddyfodol cyffrous a llwyddiannus!