Arweinwyr ffermio yn croesawu'r Bil Brexit diweddaraf

Mae arweinwyr ffermio wedi croesawu Bil y Senedd neithiwr a fydd, os caiff ei gymeradwyo gan yr Arglwyddi, yn ymgorffori yn y gyfraith bod yn rhaid i'r DU ofyn i arweinwyr yr UE am estyniad hir os yw Theresa May yn methu â sicrhau bod ei chytundeb yn mynd drwy'r senedd erbyn Ebrill 12 - gan ddiddymu Brexit heb gytundeb.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn gwthio polisi ‘Diddymu er mwyn Ail Ddechrau’ ers dechrau'r flwyddyn, gan alw ar y Llywodraeth i ddiddymu Erthygl 50, er mwyn galluogi mwy o amser i'r DU gymryd rheolaeth nôl o’r broses Brexit.

“Mae unrhyw fesur sy'n ein galluogi i adael yr UE mewn modd llyfn a threfnus i'w groesawu,” meddai Glyn Roberts, Llywydd FUW.

Ailadroddodd Mr Roberts farn hir sefydlog yr FUW bod gadael yr UE, wrth aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Dollau, yn parhau i fod y ffordd orau i bontio'r rhaniad gwleidyddol sydd wedi digwydd yn sgil refferendwm yr UE.

Pasiwyd y bil, a gyflwynwyd gan yr AS Llafur Yvette Cooper, yn ddramatig ac yn hwyr neithiwr gyda’r mwyafrif o un yn Nhŷ'r Cyffredin.