Cewri Telecom yn gwthio am 5G - ond toriadau i iawndal ffermwyr sy’n colli tir

Mae Llywodraeth y DU am gynyddu darpariaeth ffonau symudol ledled Cymru ond mae yna sgil-effeithiau cudd i ffermwyr. Mae'r Cod Cyfathrebiadau Electronig diwygiedig yn golygu bod gweithredwyr Telecom wedi gallu lleihau’r rhent sy’n cael ei dal i’r rhai hynny sydd â mastiau ar eu tir.

Mae FUW yn galw am weithredu'n syth i unioni diffygion ariannol, sydd mewn rhai achosion yn golygu miloedd o bunnoedd. “Mae'n ymddangos yn annheg iawn y dylai cewri mawr telecom, sydd eisoes yn gwneud elw enfawr, fod yn gwneud cam a’r tirfeddianwyr,” meddai Tudur Parry, cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir FUW.

O dan Deddf yr Economi Ddigidol 2017, mae'r Cod Cyfathrebiadau Electronig (para 2) 23 yn nodi na ddylai gwerth marchnad y tir a ddefnyddir ar gyfer offer telathrebu ymwneud â defnyddio'r offer hwnnw, gan leihau unrhyw daliad fel petai'n rhent amaethyddol cyffredin yn hytrach nag yn gyfraddau telathrebu.

“Er enghraifft, gall cwmni telathrebu sy'n edrych ar safleoedd gwledig gynnig cyfraddau amaethyddol pro-rata, sy'n golygu y gall cyfansoddyn mast fod yn gyfwerth â £3.70 y flwyddyn mewn rhent. Yn waeth fyth, os yw'r ffermwr yn gwrthod, o dan y ddeddf newydd gall y cwmni geisio gosod hawliau drwy'r Uwch Dribiwnlys” meddai Mr Parry. "Yn ddamcaniaethol, gallai ffermwr gael ei orfodi i dderbyn safle mast ar ei dir ar rent isel iawn a cholli defnydd o’r tir hwnnw at ddibenion amaethyddol, eglurodd.

Mae Eifion Bibby, o Ymgynghorwyr Davies Meade Property, sy'n gweithio'n agos gyda FUW, yn cyfeirio at achos diweddar lle roedd cwsmer yn cael cynnig £4,650 y flwyddyn am fast telathrebu yn 2017, ac ar ôl rheoliadau Cod Cyfathrebiadau Electronig newydd diddymwyd y cynnig gan y cwmni a’i ail gynnig am ond £32 am 10 mlynedd.