Llywydd UAC yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd

Bydd arweinydd ffermwyr Cymru, Glyn Roberts, yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cael ei gydnabod ochr yn ochr â chewri’r byd rygbi Jonathan Davies a Ken Owens, y digrifwr o Ynys Môn, Tudur Owen a’r delynores o Geredigion, Catrin Finch.

“Mae hwn yn anrhydedd mawr, nid yn unig i fi, ond hefyd yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru,” dywedodd Glyn. “Ffermio yw asgwrn cefn Cymru wledig ffyniannus a'r cymunedau sy'n byw ynddi”.

“Rwy'n gwybod na fyddaf byth yn gyfoethog o ran deunydd, ond rwy'n credu yng ngwir werthoedd gwaith caled a gwneud beth bynnag sydd o fewn fy ngallu i sicrhau bod ein ffordd draddodiadol o fyw yn parhau i ffynnu,” ychwanegodd.

Mae Glyn yn ffermio yn Ysbyty Ifan, Betws y Coed, a dechreuodd ei yrfa fel bugail, ar ôl astudio yng Ngholeg Amaethyddol Glynllifon.

Mae wedi bod yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ers 2015, ac mae'n credu'n angerddol ym mhwysigrwydd ffermio yng nghefn gwlad Cymru. Fel ffermwr bîff a defaid yng Ngogledd Cymru, mae gan Glyn ddealltwriaeth ddofn o bwysigrwydd amaethyddiaeth i economi Cymru a'r angen i ffermio'n gynaliadwy ac yn broffidiol.

Mae wedi chwarae rhan hanfodol mewn trafodaethau gydag uwch wleidyddion, yn enwedig yn ystod trafodaethau Brexit, gan gyflwyno cynigion ar y lefel uchaf gyda'r nod o leihau'r aflonyddwch a'r difrod economaidd i amaethyddiaeth a diwydiannau eraill ar ôl gadael yr UE.

Cynhelir seremonïau'r Orsedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Conwy ym mis Awst.