FUW yn croesawu adolygiad y Llywodraeth o ymgynghoriad ‘Brexit a'n Tir’

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi rhoi croeso gofalus i adolygiad Llywodraeth Cymru o ymatebion i ymgynghoriad Brexit a'n Tir fel cam tuag at gydnabod y bygythiadau a'r cyfleoedd y gallai Brexit a newidiadau i gefnogaeth wledig eu cynnig.

“Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymddangos wedi ystyried llawer o'r pryderon a godwyd gan FUW,” meddai Glyn Roberts, Llywydd FUW.

“Rydym nawr yn gobeithio y bydd yr ymgynghoriad nesaf, sydd i'w gynnal ym mis Gorffennaf, yn nodi cam pellach tuag at gydnabod peryglon i'n cymunedau a'n heconomi o symud yn gyflym tuag at ddulliau heb eu profi a allai fod y mwyaf radical i'w cyflwyno ers yr Ail Ryfel Byd. ”

Ers Refferendwm yr UE ym mis Mehefin 2016, roedd FUW wedi pwysleisio dro ar ôl tro bod angen dadansoddi, modelu a threialu unrhyw gynigion newydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol am gefnogaeth wledig ar ôl Brexit.

Mae'r undeb hefyd wedi pwysleisio y dylai unrhyw benderfyniadau mawr gael eu llywio gan wybodaeth a dadansoddiad ystyriol o'r dirwedd economaidd ar ôl Brexit a'r amgylchedd masnachu ar gyfer amaethyddiaeth.

“Rydym wedi cydnabod bob amser bod cyfleoedd i wneud gwelliannau sylweddol i'r polisi presennol er mwyn gwella’r ddarpariaeth swyddi, ffyniant, nwyddau amgylcheddol a llu o fuddion eraill,” dywedodd Mr Roberts.

“Mae yna bob math o ddulliau dyfeisgar ar gyfer gwneud hyn, yn ogystal â degawdau o gysyniadau fel taliadau am nwyddau cyhoeddus, ac mae llawer o'r rhain yn cael eu hystyried gan yr UE wrth iddynt ddatblygu eu cynigion diwygio eu hunain.”

Mae FUW yn parhau i ategu y dylai pob opsiwn gael ei ddadansoddi, ei fodelu a'i dreialu'n drylwyr er mwyn asesu ei effeithiau ar ffermydd teuluol, busnesau a chymunedau gwledig a'r amgylchedd.

“Nid yw'n dda darganfod bod yr addewidion o gynaliadwyedd a ffyniant a wnaed mewn areithiau yn wag wrth wylio busnesau a chymunedau’n mynd i drafferthion, a'r unig ffordd i leihau'r risg hon yw ymgymryd â modelu, treialu ac asesiadau effaith economaidd trwyadl,” meddai Mr Roberts.

Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad Brexit a'n Tir, roedd FUW wedi argymell creu Grŵp Diwygio Polisi sy'n gyfrifol am greu cynllun a fyddai'n nodi sut y gellid esblygu polisïau cyfredol yn ofalus i gynlluniau sy'n bodloni Nodau Llesiant Cymru, wrth leihau'r risgiau o ganlyniadau annymunol.

“Byddai grŵp o'r fath yn cydweithio mewn ysbryd cyd-gynhyrchu ac yn gyfrifol am osod cerrig milltir allweddol; asesu datblygiadau polisi o ran Brexit, masnach ac ati; ymgymryd â modelu i asesu effeithiau a pheryglon cynigion polisi ac asesu hydrinedd unrhyw newidiadau o ran adnoddau Llywodraeth Cymru, ”meddai Mr Roberts.

“Rydym yn dal i gredu mai dyma'r dull gorau ac mae FUW wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r hyn sydd orau i'n cenedl.”

Ym mis Hydref 2018, lansiodd FUW a NFU Cymru ddogfen ar y cyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad Brexit a'n Tir o'r enw ‘Y ffordd ymlaen i Gymru’, a oedd yn nodi egwyddorion allweddol wedi'u hanelu at roi bwyd, ffermio, bywoliaeth, cymunedau a'r amgylchedd yng Nghymru ar sylfaen gadarn ar ôl Brexit.

Yr egwyddorion allweddol oedd:

Sefydlogrwydd - Y flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yw darparu sefydlogrwydd mewn byd o ansicrwydd.

Ffermydd Teuluol - rhaid i bolisïau gwledig Cymru'r dyfodol gadw teuluoedd sy'n cynhyrchu bwyd ar y tir

Cefnogi Cymunedau Gwledig a Swyddi Cymru - Rhaid cynnal cefnogaeth uniongyrchol sy'n sail i gynhyrchu bwyd diogel o'r radd flaenaf er mwyn osgoi achosi niwed anadferadwy i Gymru

Amaethyddiaeth Gynaliadwy - Mae’n rhaid i Gymru barhau i fuddsoddi mewn mesurau sy'n gyrru cynhyrchiant, gwella effeithlonrwydd a chynorthwyo ffermwyr i gynyddu potensial y farchnad wrth fodloni rhwymedigaethau amgylcheddol a newid hinsawdd

Gwobrwyo Canlyniadau Amgylcheddol - Mae ffermwyr Cymru wedi darparu canlyniadau cyhoeddus cadarnhaol i'r genedl ers canrifoedd, a dylid eu gwobrwyo yn deg am yr hyn y maent eisoes wedi ei ddarparu, yn parhau i'w ddarparu ac yn mynd i'w ddarparu yn y dyfodol.

“Rydym yn sefyll yn ôl yr egwyddorion hyn, ac yn gobeithio y cânt eu cydnabod yn llawn yn yr ymgynghoriad sydd i ddod,” ychwanegodd Mr Roberts.

Diwedd