Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn adlewyrchu harddwch Dyffryn Conwy

Noddir cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 gan ganghennau sir Gaernarfon a sir Ddinbych o Undeb Amaethwyr Cymru ar ôl i’r Undeb roi hysbyseb ym mhob un o bapurau bro ardal yr Eisteddfod yn gofyn am ddyluniadau.

Derbyniwyd nifer o geisiadau a dyluniad Gwenan Jones o fferm Tŷ’n Rhos, Pentrefoelas oedd yn llwyddiannus. O’i magwraeth yng nghefn gwlad Dyffryn Conwy a gradd mewn Arlunio, Dylunio a Gwneuthuro o Ysgol Celf a Dylunio, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, cafodd Gwenan ei hysbrydoli gan yr afon Conwy a diwylliannau’r sir.

Defnyddiodd ddelweddau o’r dyffryn i greu dyluniad eithriadol o hardd gydag afon Conwy fel asgwrn cefn y sir, tref Llanrwst a’i diwydiannau.  Mae ffôn fugail hefyd yn un o’r siapiau arloesol ar gyfer y gadair, sy’n symbolaeth gadarn ac urddasol o’r sir a’i diwylliannau.

Hefyd, defnyddiodd Gwenan wlân o’i diadell hi o ddefaid a chwyr gwenyn o Dŷ’n Rhos, llechen a chopr i adlewyrchu'r diwydiannau hynny o fewn y sir, a cherrig i adlewyrchu gwely’r afon.

O’i gweithle yng Nghelfiderw, mae Gwenan wedi defnyddio ei sgiliau i addurno'r gadair gyda siâp pont Llanrwst ar gefn y gadair, cerflun o bysgotwr ar lan yr afon, a delwedd o’r dyffryn cyfan ar hyd darn o lechen ar flaen y sedd.

“Heb os nac oni bai, mae’r Gadair yma yn un o’r harddaf, os nad yr harddaf erioed a welwyd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol”, dywedodd Gwynedd Watkin, Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon.