Arddangosiadau coginio, SuperTed, dawnswyr stepio a materion troseddau gwledig – wythnos a hanner ar stondin UAC yn yr Eisteddfod

Gall y rhai sy'n mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yr wythnos nesaf, edrych ymlaen at raglen brysur o ddigwyddiadau ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru.

O arddangosiadau coginio gan y cogyddion lleol Gerwyn Williams, perchennog a phrif gogydd yn Bistro Betws y Coed, a Mel Thomas i ymddangosiadau gan gymeriadau poblogaidd plant Cymru Sali Mali, Sam Tân, SuperTed ac eraill, ynghyd â'r cyfle i gwrdd â thrafod materion troseddau gwledig gyda thîm Trosedd Gwledig Heddlu Gogledd Cymru, mae canghennau UAC Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych wedi gwneud ymdrech arbennig i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol yr wythnos, sy'n addas ar gyfer pob oedran.

Mae’r ddau Swyddog Gweithredol Sirol UAC lleol, Gwynedd Watkin a Mari Jones, yn edrych ymlaen at y digwyddiad.

Dywedodd Gwynedd: "Mae gennym wythnos fendigedig o'n blaenau yn yr Eisteddfod eleni, bydd dau gogydd lleol yn rhoi arddangosiadau coginio i ni trwy ddefnyddio cynnyrch lleol. Cynhelir seminarau ym Mhabell y Cymdeithasau ar bynciau sy'n peri pryder i ni i gyd."

Ychwanegodd Mari: "Bydd cymeriadau plant enwog S4C yn galw mewn, cyfle i ennill oen tegan meddal mawr, ac wrth gwrs bydd digon o sgyrsiau #AmaethAmByth dros baned a thafell o gacen. Mae croeso cynnes yn aros pawb sy'n ymuno â ni ar y Maes ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi gyd yno."

Trefn y digwyddiadau:

Dydd Sadwrn 3 Awst:

11:00 - 13:00 Arddangosfa coginio Mel Thomas

11:30 - 13:30 Cyfarfod â'ch tîm Troseddau Gwledig

14:00 - 16:00 Arddangosfa coginio Mel Thomas

Dydd Sul 4 Awst:

Croeso cynnes i bawb

Dydd Llun 5 Awst:

11:00 Seminar UAC ym Mhabell y Cymdeithasau - 'Gwylltio gydag ail-wylltio'. Yn dilyn y seminar llwyddiannus ar ail-wylltio a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, bydd y drafodaeth yn parhau yn yr Eisteddfod ac yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng cadwraeth ac ail-wylltio neu a ydyn nhw'r un peth.

Bydd y seminar yn cael ei gadeirio gan ohebydd y BBC John Meredith gyda Llywydd UAC Glyn Roberts a Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor.

Wrth siarad cyn y seminar, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Yn 2018 lansiodd Rewilding Britain ei phrosiect 'Summit to Sea', gan ganolbwyntio ar 240 milltir sgwâr o Ganolbarth Cymru, gan godi llawer o bryderon ymhlith preswylwyr, cadwraethwyr a ffermwyr.

"Mae rhai yn dadlau bod ail-wylltio yn creu ecosystemau lle mae dylanwadau a rheolaeth ddynol dros ddarnau helaeth o dir yn diflannu, a rhywogaethau fel ysglyfaethwyr mawr yn creu amgylcheddau hunanreoleiddiol heb ryngweithio dynol.

"Mae eraill yn dadlau mai dim ond dull newydd a chyffrous o gadwraeth yw ail-wylltio. Bydd y seminar yn edrych a yw ffermwyr a'u da byw yn rhywogaethau allweddol mewn ecosystemau neu'n rhwystr i gadwraeth, ac a yw cadwraeth ac ail-wylltio yn ddwy ochr i'r un geiniog, neu'n bolisïau sy'n hollol ar wahân."

11:00 - 13:00 Arddangosfa coginio Gerwyn Williams

14:00 - 14:15 Sali Mali a Sam Tân yn ymweld â'r stondin.

14:00 - 16:00 Arddangosfa coginio Gerwyn Williams

Dydd Mawrth 6 Awst:

11:00 - 13:00 Arddangosfa coginio Mel Thomas

11:30 - 13:30 Cyfarfod â'ch tîm Troseddau Gwledig

14:00 - 16:00 Arddangosfa coginio Mel Thomas

Dydd Mercher 7 Awst:

14:00-16:00 Arddangosfa coginio Gerwyn Williams

Dydd Iau 8 Awst:

Bore: Dawnswyr Stepio Bro Gwydir

11:00 - 13:00 Arddangosfa coginio Gerwyn Williams

14:00 - 16:00 Arddangosfa coginio Gerwyn Williams

Dydd Gwener 9 Awst:

11:00 Seminar UAC: A oes dyfodol i Gymru Wledig? Gyda Guto Bebb AS, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Conwy, Goronwy Edwards ac eraill.

Yn bryderus am yr economi a’r ffordd wledig o fyw yng Nghymru yn sgil Brexit, dywedodd Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts: "Gallai bygythiad Brexit heb gytundeb weld dinistr Cymru wledig. Ac nid ffermwyr yn unig fydd yn dioddef ond yr holl fusnesau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth. Dyma pam mae ein hymgyrch #AmaethAmByth yn mynd y tu hwnt i fuarth y fferm ac yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae ffermio yn ei chwarae wrth gadw olwynion ein heconomi i droi. Byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â ni ar gyfer y drafodaeth bwysig hon a fydd yn trafod dyfodol cefn gwlad Cymru."

11:00 - 13:00 Arddangosfa coginio Mel Thomas

14:00 - 14:15 Ben Dant a Cadi, Holi Hana a SuperTed yn ymweld â'r stondin

13:00 - 16:00 Arddangosfa coginio Mel Thomas