Bwrlwm stondin FUW yn Sioe Sir Meirionnydd

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn edrych ymlaen at ddiwrnod prysur yn sioe’r sir (dydd Mercher, 28 Awst), a gynhelir yn Harlech.

Bydd swyddogion yr undeb, gan gynnwys Llywydd FUW, Glyn Roberts, yn croesawu Dafydd Elis Thomas AC a Liz Saville Roberts AS i’r babell am drafodaeth ar bolisi a chyllid fferm ar ôl Brexit, yn ogystal â llawer o faterion amaethyddol arall.

Dywedodd Cadeirydd sir FUW Meirionnydd, Sion Ifans: “Rydym yn edrych ymlaen at drafod #AmaethAmByth ar y stondin gyda'n haelodau a'n gwleidyddion etholedig ac estynnwn groeso cynnes i aelodau, gwesteion a ffrindiau'r FUW i ymuno â ni ar y diwrnod.

“Bydd swyddogion a staff yr undeb, yn ogystal â Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf wrth law i ateb cwestiynau a allai fod gan ein haelodau. Mae cangen y sir hefyd yn ddiolchgar i aelodau a ffrindiau FUW yn ardaloedd Dinas Mawddwy, Dolgellau a Trawsfynydd am ddarparu lluniaeth ar y stondin.”

Bydd cangen Meirionnydd o’r RABI yn bresennol ar stondin FUW trwy gydol y dydd yn ogystal â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, ynghyd â Rob Taylor ac aelodau’r Tîm Troseddau Gwledig a fydd yn annerch y mater o ladradau fferm yn y sir.

Mae’r FUW yn tynnu sylw ymhellach at waith Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), sydd wedi penodi ‘llysgenhadon’ yn ddiweddar, ac un ohonynt yw Alun Edwards, aelod lleol amlwg o FUW a chyflwynydd teledu adnabyddus. Bydd Alun ar stondin FUW fel rhan o’i waith yn tynnu sylw at pam mae angen i fusnesau ffermydd Cymru ‘stopio, meddwl a gweithredu’n gywir’ i leihau’r risg uchel o ddamweiniau amaethyddol.

Bydd cangen sirol FUW hefyd yn cyflwyno ei nawdd blynyddol o £250 i Glybiau Ffermwyr Ifanc ym Meirionnydd, tra hefyd yn cyflwyno FUW Academi. Lansiwyd hwn yn ddiweddar yn Sioe Frenhinol Cymru, ac mae'n ffordd newydd o gadw mewn cysylltiad â ffermwyr ifanc. Mae'n addo gweithgareddau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn trwy rwydwaith o grwpiau sy'n canolbwyntio ar rwydweithio a chlywed y newyddion amaethyddol diweddaraf.

Yn ymuno hefyd â FUW ar y diwrnod bydd Cyfarwyddwr FWAG Cymru Dr Glenda Thomas rhwng 11yb a hanner dydd a fydd ar gael i drafod yr estyniadau cytundeb Glastir sydd ar ddod a pharatoi ar gyfer arolygiadau Glastir. Bydd Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio Meirionnydd Eryl P Roberts hefyd yn bresennol rhwng 1yp a 3yp.

Bydd Gwennan Jones o Gamlins Solicitors LLP ar stondin FUW rhwng 10.30yb a 2.30yp ac ar gael i roi cyngor cyfreithiol cryno iawn ar unrhyw fater. Mae aelodaeth FUW yn cynnwys cyngor cyfreithiol hanner awr am ddim gyda Gamlins Solicitors LLP, sydd â swyddfeydd ledled Gogledd Orllewin Cymru.

Bydd David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Farming Community Network (FCN) yn bresennol ar stondin FUW am gyfnod byr. Yn ogystal, bydd Nyrs Staff Ysbyty Dolgellau, Anne Thomas ac Edna Jones o Wasanaethau Cleifion Allanol BCUHB hefyd yn bresennol trwy gydol y dydd i hybu iechyd a chodi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer lles meddyliol yn y gymuned ffermio.