FUW yn annog ffermwyr i beidio colli'r cynllun gwaredu plaladdwyr yn gyfrinachol ac am ddim

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog ffermwyr i ddefnyddio cynllun gwaredu plaladdwyr sy’n gyfrinachol ac am ddim ledled Cymru gyfan fel rhan o brosiect PestSmart, sy’n cael ei weithredu gan Dŵr Cymru Welsh Water.

Bydd y cynllun yn agor ar gyfer cofrestru rhwng dydd Mercher 14 Awst a 5yp ddydd Llun 30 Medi, gan ganiatáu i ddefnyddwyr proffesiynol waredu plaladdwyr diangen, hen neu sydd bellach heb drwydded a chemegau eraill yn ddiogel ac yn gyfrinachol.

Dywedodd Bernard Griffiths, Swyddog Polisi FUW: “Os gwelwch fod gennych gynhyrchion hen neu sydd bellach heb drwydded ar y fferm, a all fod yn anodd neu’n ddrud i’w gwaredu’n gywir, yna byddem yn eich annog i gofrestru ar gyfer y cynllun hwn.

“Wrth gwrs mae plaladdwyr yn ffurfio rôl hanfodol yn y gymuned amaethyddol bob dydd ond os cânt eu storio, eu defnyddio neu eu gwaredu yn anghywir, gallant gael effaith ddinistriol ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt.”

Nod y cynllun cyfrinachol rhad ac am ddim hwn ledled Cymru, yw lleihau'r risg o lygredd a diogelu ansawdd dŵr crai cyn iddo gyrraedd gwaith trin Dŵr Cymru Welsh Water.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.dwrcymru.com/ên/WaterSource/PestSmart/2019-Pesticide-Disposal-Scheme.aspx