Ydych chi’n nabod rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin?

Ydych chi’n nabod rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin?

Mae cangen Caerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobr UAC – Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig 2019 am y person sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr FUW, Gwasanaethau Yswiriant FUWIS a Chymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn nigwyddiad FUW a fydd yn cael ei chynnal noson cyn y Sioe Laeth.

Dywedodd Swyddog Gweithredol FUW Sir Gaerfyrddin David Waters: "Dylai'r enwebiad fod ar ffurf llythyr neu eirda sy'n rhoi manylion llawn am waith a chyflawniad yr enwebedig gyda phwyslais mawr ar yr effaith gadarnhaol neu fuddiol ar amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin.”

Mae cyn enillwyr y wobr yn cynnwys John James (2004), David Lewis FRICS FRAgS (2005), Bryan Thomas FRAgS (2006), Haydn Jones FRAgS (2007), Lynn Davies ARAgS (2008), Dai Lloyd (2009), Eirios Thomas (2010), Brian Walters (2011), Roy Davies FRAgS (2012), Meinir Bartlett (2013), Mary James (2014), Y Parchg. Canon Eileen Davies (2015), Rita Jones (2016) , Brian Jones MBE FRAgS (2017) a chyflwynwraig Ffermio Meinir Howells (2018).

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Llun Hydref 7 a dylid eu hanfon at swyddfa FUW Sir Gaerfyrddin, 13a Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD neu drwy e-bost i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r sir ar 01267 237974.