FUW yn chwilio enwebiadau am berson llaeth rhagorol

Unwaith eto, mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) eisiau cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant yng Nghymru.

Er mwyn cydnabod y fath berson, mae’r Undeb yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y wobr, Gwasanaeth Neilltuol i Ddiwydiant Llaeth Cymru UAC.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi, a’r wobr yn cael ei chyflwyno yn Sioe Laeth Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth Hydref 29.

Dywedodd Swyddog Gweithredol FUW Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae yna nifer o unigolion teilwng iawn yng Nghymru sy’n haeddu’r wobr yma, ac wrth edrych nôl, rydym wedi cael enwebiadau ac enillwyr gwych.  Felly os ydych yn nabod person yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol ohono yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu nhw ar gyfer y wobr urddasol hon.”

Mae cyn enillwyr y wobr yn cynnwys cyn Lywydd FUW Sir Gaerfyrddin Ogwyn Evans (2008); ffermwr o Sir Gaerfyrddin Bryan Thomas - cyn aelod o gyngor Cymdeithas Holstein Friesian a sylfaenydd Sioe Laeth Cymru (2009), ffermwr llaeth o Sir y Fflint Terrig Morgan, sylfaenydd y grŵp trafod llwyddiannus ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ifanc yn Sir y Fflint sydd bellach yn cael ei redeg gan DairyCo, “The Udder Group” (2010); Cadeirydd DairyCo Tim Bennett (2011); cyn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth FUW Eifion Huws o Ynys Môn (2012); cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Lloegr a Chymru Mansel Raymond (2013); ffermwr o Wynedd Rhisiart Tomos Lewis (2014); perchennog Daioni Organig Laurence Harris (2015), Gareth Roberts o Llaeth y Llan (2016), cyn is lywydd FUW Brian Walters o fferm Clunmelyn (2017) a dirprwy lywydd NFU Cymru Aled Jones (2018).

Dylai’r enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn gwaith a chyflawniadau’r enwebedig a’i anfon i Swyddfa FUW Sir Gaerfyrddin, 13a Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD neu drwy ebost This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. erbyn dydd Llun Hydref 7.