FUW yn atgoffa ffermwyr i fod yn ymwybodol o reolau llosgi glaswellt er mwyn osgoi dirwyon

Mae ffermwyr yn cael eu hatgoffa i ddilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt er mwyn osgoi niwed i'r amgylchedd, dirwyon uchel a chosbau traws-gydymffurfio.

Dim ond rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth y caniateir llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn, eithin a llus ar yr ucheldir (tir yn yr Ardal dan anfantais ddifrifol yn yr Ardal Llai Ffafriol) ac 1 Tachwedd - 15 Mawrth ymhob man arall.

Mae'n bosibl llosgi o dan reolaeth ar adegau eraill ond dim ond o dan drwydded y gellir ei chael mewn amgylchiadau penodol iawn.

Dywedodd Is-lywydd FUW, Ian Rickman: “Mae’n bwysig iawn bod ffermwyr yn cofio, os nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Llosgi, eu bod yn torri’r gyfraith ac efallai y byddan nhw’n wynebu dirwy hyd at £1,000. Gallent hefyd gael eu cosbi o dan reolau traws-gydymffurfio.”

Mae'r Cod Llosgi Grug a Glaswellt yn gofyn i ffermwyr baratoi'n drylwyr cyn llosgi yn ogystal â chynllunio ac ymgynghori ymhell cyn y tymor llosgi.

Mae angen i'r rhai sy'n cynllunio llosgi dan reolaeth gysylltu â'r Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, ymgynghori a chydweithredu â chymdogion, yn enwedig perchnogion coetiroedd, i sefydlu neu gadarnhau rhaglen losgi am y flwyddyn a chynghorir y rhai ar dir comin i ymgynghori â chyd-Gominwyr a'r Gymdeithas Cominwyr lleol os oes un.

Mae llwyddiant llosgi ac i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl yn dibynnu ar baratoi a chyfathrebu da.

“Ar fore diwrnod y llosgi, ffoniwch eich gwasanaeth tân ac achub lleol a rhowch fanylion y lleoliad (gan gynnwys cyfeirnod grid map yr Arolwg Ordnans) a maint y llosgi a fwriadwyd. Ar ddiwedd y dydd, gadewch iddyn nhw wybod pan fydd yr holl danau wedi'u diffodd. Cynghorir ffermwyr hefyd i beidio â llosgi os yw'r tywydd yn anaddas ar gyfer llosgi diogel a rheoledig.

“Rhaid i chi sicrhau bod gyda chi gynllun argyfwng a bod cymorth wrth gefn ar gael os ydych chi'n llosgi dan reolaeth a bod modd cysylltu â chi ar y radio neu'r ffôn symudol ar y diwrnod pan fydd llosgi yn digwydd,” ychwanegodd Ian Rickman.

Mae Cod Llosgi Grug a Glaswellt yn gofyn ymhellach i’r rhai sy’n cyflawni’r llosgi a oes ganddynt gymorth atal tân ychwanegol ar gael wrth losgi llystyfiant lle mae llawer o wellt y bwla.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd gallai darnau o wellt a dail marw o'r glaswellt gael eu codi gan ddrafft o’r tân a gall gynnau tanau newydd.

“Gall llosgi rheoledig, wedi’i gynllunio’n ofalus, fod yn fuddiol i amaethyddiaeth, cadwraeth bywyd gwyllt a’r amgylchedd ehangach. Os yw'n cael ei wneud yn y ffordd iawn, gall wella hygyrchedd a safon gwell o fwyd i anifeiliaid sy’n pori ac yn cynhyrchu amrywiaeth o strwythur a chyfansoddiad llystyfiant sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt ac adar yr ucheldir fel grugieir coch.

“Fodd bynnag, mae angen cyflawni hyn gyda medr a dealltwriaeth os nad yw am wneud mwy o ddrwg nag o les. Heb ystyriaeth, gall llosgi fod yn wrthgynhyrchiol ac yn niweidio pori gwerthfawr, planhigion, anifeiliaid, cynefinoedd a nodweddion hanesyddol ac effeithio'n negyddol ar ansawdd dŵr. Felly dilynwch y cod os ydych chi'n bwriadu llosgi dan reolaeth er eich diogelwch, yr amgylchedd a'n bywyd gwyllt,” ychwanegodd Ian Rickman.

Gellir cael mwy o wybodaeth ac arweiniad yma: https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-01/heather-and-grass-burning-code.pdf