Iechyd Da! Mae’n Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd!

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd heddiw.

Yn siarad ar Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd, dywedodd cadeirydd pwyllgor Llaeth FUW, Dai Miles: “Mae gan laeth a chynhyrchion llaeth ran bwysig i’w chwarae yn ein diet bob dydd gan eu bod yn darparu ffynhonnell bwysig o brotein a chalsiwm ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol, sydd angen ar gyfer diet cytbwys.

“Gyda mwy a mwy o ymchwil i laeth fel diod ail-hydradu, mae yna hefyd bentwr cynyddol o dystiolaeth sy’n awgrymu bod llaeth yr un mor effeithiol â rhai diodydd egni arall.

“Hefyd, yn bendant, gall llaeth helpu plant i aros yn hydradol a chadw lefelau egni uchel yn yr ysgol ac mae'n opsiwn llawer iachach na rhai o'r diodydd llawn siwgr sydd ar gael.

“Rydyn ni'n bendant yn codi gwydraid o laeth heddiw, ac yn gobeithio y bydd pobl sy'n hoff o laeth ledled y byd yn gwneud yr un peth.”