Mae ein ffermwyr defaid yn gwneud mwy na bwydo’r genedl yn unig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog y rhai sydd eisiau helpu’r amgylchedd a byw bywyd mwy cynaliadwy, heb blastig, i ddefnyddio gwlân.

Wrth siarad cyn Wythnos Wlân 2019 (07 - 20 Hydref), sydd â’r nod o dynnu sylw at rinweddau perfformiad naturiol gwlân a buddion ecolegol, dywedodd Is-lywydd FUW Ian Rickman: “Bob blwyddyn mae ein defaid yn cynhyrchu cnu newydd a byddant yn gwneud hynny cyhyd a bydd yna borfa iddynt bori arno, gan wneud gwlân yn ffynhonnell ffibr adnewyddadwy rhagorol.

“Mae hynny'n arbennig o wir o'i gymharu â ffibrau synthetig, sydd angen olew a phurfeydd ac sy'n adnodd anadnewyddadwy ar gyfer cynhyrchu ffibr o waith dyn."

Ychwanegodd Ian fod ffermwyr defaid yn gweithio i ddiogelu'r amgylchedd a gwella effeithlonrwydd cynhyrchu da byw. Mae'r defnydd o adnoddau naturiol a'r gostyngiadau sy'n ofynnol wrth ddefnyddio tanwydd ffosil meddai, yn golygu y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr edrych ar eu dewisiadau tymor hir.

“Rydyn ni'n bwydo'r genedl gyda chig oen cynaliadwy sy'n derbyn gofal da ac yn cymryd ein cyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd o ddifrif. Rydym yn rhannu pryderon am lygredd plastig a micro-ffibr yn ein moroedd a'n pridd, yn ogystal â llygredd o danwydd ffosil.

“Mae ffabrigau fel polyester, neilon, acrylig, a ffibrau synthetig eraill i gyd yn fathau o blastig ac yn cyfrannu tua 60 y cant o'r deunydd sy'n ffurfio ein dillad ledled y byd.

“A bydd y gronynnau plastig bach hynny sy'n colli o'n dillad yn cyrraedd ein moroedd yn y pen draw ac yn cymryd amser hir iawn i ddirywio yn y pridd. Felly, mae angen i ni wneud dewisiadau personol o ran yr hyn rydyn ni'n ei ddefnyddio - boed yn fwyd neu'n ddillad."

Mae FUW yn credu mai’r ateb i’r broblem yw gwlân a gynhyrchir gan ddefaid yma yng Nghymru.

“Mae dros 10 miliwn o ddefaid yng Nghymru, sy’n golygu bod gennym adnodd gwych yma ar garreg ein drws. Gellir dychwelyd gwlân ar ddiwedd ei oes ddefnyddiol i'r pridd. Mae'n dadelfennu, yn rhyddhau maetholion gwerthfawr i'r ddaear, ac yn chwalu o fewn amser byr iawn.  Nid yw'n llygru'r moroedd ac mae ganddo lawer o fuddion eraill.

“Felly, os ydych chi am wneud eich rhan dros yr amgylchedd, prynwch fwyd lleol tymhorol ac ystyriwch wlân fel dewis arall hyfyw yn lle ffibrau o waith dyn.”