Angen egluro penderfyniad Tomlinson i roi'r gorau i gasglu llaeth ar frys

Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau i Tomlinson’s Dairies egluro ar frys y rhesymau y tu ôl i’w penderfyniad i gau a gwrthod llaeth.

Daeth y penderfyniad sydyn hwn i rym bron yn syth ac mae wedi gadael llawer o gynhyrchwyr llaeth yng Nghymru yn sgrialu i ddod o hyd i brosesydd arall i’w llaeth.

Dywedodd Is-lywydd FUW, Eifion Huws: “Rydym yn hynod bryderus am ein haelodau sydd wedi’u heffeithio ac sydd wedi cysylltu â ni. Ni chawsom unrhyw rybudd ymlaen llaw ac rydym yn hynod siomedig bod ffermwyr yn cael eu gadael mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt unrhyw un i gasglu eu llaeth.

“Os yw’r dyfalu’n wir, ac rydym wedi colli prosesydd mawr arall yng Nghymru, bydd hyn yn ergyd drom i ffermwyr, gweithwyr a’r diwydiant yn gyffredinol ar adeg pan fydd ymdrechion sylweddol yn cael eu gwneud i gryfhau ac adeiladu ar ein brand Cymraeg unigryw. ”

Daw penderfyniad Tomlinson’s i roi’r gorau i gasglu llaeth ar ôl hwb ariannol sylweddol o £22 miliwn yn 2017 a welodd ehangu eu cyfleusterau storio oer a chreu 70 o swyddi.

“Byddwn yn gofyn am eglurhad pellach ar y sefyllfa pan fyddwn yn cwrdd â Lesley Griffiths yr wythnos hon. Bydd hyn yn peri pryder mawr o ystyried bod yr hufenfa mewn etholaeth wrth ymyl hi. Byddwn hefyd yn trafod datblygiadau mewn cyfarfod gyda'r Aelod Seneddol yr etholaeth Susan Jones. "