Pryderon Cymru ynghylch effaith cytundeb ‘newydd’ UE-DU yn ddigyfnewid meddai FUW

Dywed Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) nad yw'r cytundeb tynnu'n ôl drafft a'r datganiad gwleidyddol y cytunwyd arno rhwng yr UE a'r DU yn gwneud dim i dawelu pryderon sy'n bresennol yng nghytundeb gwreiddiol Theresa May, o ystyried nad yw'n cynnwys 'unrhyw newidiadau na gwelliannau sylweddol i Gymru' ac y bydd yn gosod y DU y tu allan i'r Farchnad Sengl.

Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “O safbwynt Cymru mae’r cytundeb i bob pwrpas yn ddigyfnewid o’r adeg y cafodd ei chynnig gan Theresa May.

“Mae’r ffaith ei fod yn ceisio mynd â ni allan o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer cytundebau gyda gwledydd y tu allan i’r UE, ynghyd ag awydd brawychus Llywodraeth y DU am gytundeb gydag UDA, yn codi pryderon mawr i amaethyddiaeth yng Nghymru a'r rhai sy'n ymwneud â safonau bwyd y DU."

Dywedodd Mr Roberts y byddai'n flaenoriaeth amlwg i UDA mewn trafodaethau masnach i sicrhau mynediad i farchnad y DU ar gyfer cynhyrchion amaethyddol - a gynhyrchir yn aml mewn ffyrdd ac i safonau sy'n is o lawer na'r hyn sy'n gyfreithiol yng Nghymru a gweddill yr UE ar hyn o bryd.

“Byddai’r effaith yn hynod o niweidiol i ffermwyr Cymru a safonau bwyd y DU, ac mae perygl gwirioneddol y byddai’r DU yn derbyn cytundebau yn ystod y math o drafodaethau y mae’r cytundeb tynnu’n ôl hon a’r datganiad gwleidyddol yn ceisio eu caniatáu.

“Yn ogystal â gostwng safonau’r DU, byddai perygl hefyd o golli mynediad i farchnad lewyrchus yr UE sydd ar garreg ein drws ar gyfer cynhyrchion fel cig oen Cymru, oherwydd y gwahanol safonau hynny.”

Dywedodd Mr Roberts bod y ffaith bod yr Unol Daleithiau yn dewis Chwisgi o’r Alban - ac nid Chwisgi o Iwerddon - yn yr embargo masnach sydd ar fin dod i rym yn ei gwneud yn glir pa mor ddidostur fyddai trafodaethau masnach i’r DU, a pha mor ddiystyr fyddai’r syniad o ‘berthynas arbennig’ wrth greu cytundeb o'r fath gydag UDA.

“Bydd darlun ehangach o gytundeb tynnu'n ôl drafft y DU-UE yn cael ei llunio mewn cyfarfod o Gadeiryddion a Swyddogion FUW.

“Fodd bynnag, ein hymateb cyntaf yw parhau i gefnogi math o Brexit sy’n sicrhau mynediad rhydd i’r Farchnad Sengl ac sydd ddim yn agor ein cadwyn cyflenwi bwyd i fwyd a gynhyrchir i safonau iechyd a lles anifeiliaid a fyddai’n anghyfreithlon yma yng Nghymru. ”