Cyfarfod Blynyddol FUW Caernarfon i drafod dyfodol ffermio

Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn cael ei gynnal yng Nghlwb Golff Caernarfon, ar nos Fercher 6 Tachwedd am 7.30 yr hwyr.

Prif bwnc y noson fydd Ffermio Cynaliadwy ac yn cyflwyno’r pwnc fydd Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor a Nia Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru. Hefyd yn bresennol bydd Llywydd FUW, Glyn Roberts, a fydd yn rhoi diweddariad ar weithgaredd yr Undeb.

Dywedodd Cadeirydd Sir FUW Caernarfon, Dafydd Williams: “Rydym yn edrych ymlaen at noson addysgiadol, a fydd yn sicr yn darparu llawer o wybodaeth i ni. Rwy'n gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni."

Noddir y digwyddiad gan HSBC ac mae'r FUW yn edrych ymlaen at groesawu Bryn Edmunds ar ran y banc.

“Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae croeso i chi ddod â ffrind gyda chi i’r cyfarfod a fydd yn gallu cyfieithu i chi,” ychwanegodd Mr Williams.

Bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei weini ar ddiwedd y cyfarfod.

Os ydych chi'n bwriadu dod i'r CCB, cysylltwch â swyddfa'r sir erbyn dydd Llun 4 Tachwedd ar 01286 672541.

Diwedd