UAC yn annog siopwyr i gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog siopwyr i wneud y siopa Nadolig yn lleol ac i gefnogi busnesau gwledig a lleol.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:  “Gyda’r Nadolig ar y trothwy, rwyf am eich annog chi i feddwl am brynu’r cinio Nadolig mawreddog ac anrhegion y teulu a chyfeillion gan fusnesau gwledig a lleol.

“Siaradwch gyda’r cigydd lleol am gig dros yr Ŵyl ac ewch i’r siop fferm leol i weld beth sydd gyda nhw i gynnig - Rwy'n addo y bydd y rhan fwyaf o'r cynhwysion sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cinio Nadolig ar gael yn lleol.

“Mae yna hefyd lawer o siopau bach yn gwerthu crefft Cymreig ac anrhegion a gynlluniwyd yn lleol, ac wrth gwrs mae'r dewis ar gyfer anrhegion bwyd lleol yn helaeth. Mae'n werth cael golwg ar hyn. Bydd ein penderfyniadau bach siopa ni, yn eu tro, yn cael effaith fawr ar ein heconomi wledig.

"Bydd punt sy’n cael ei wario’n lleol yn mynd ymhellach na phunt sy’n cael ei wario mewn siop gadwyn ac mae'n cynnal ein heconomïau gwledig. Drwy gefnogi ein busnesau lleol, nid ydym yn chwyddo cyflog Prif Weithredwr er mwyn prynu cartref gwyliau arall, ond yn hytrach yn helpu mam a thad lleol i roi bwyd ar y bwrdd, mae teulu'n medru talu eu morgais, mae merch fach yn medru cael gwersi dawnsio ac mae bachgen bach yn medru cael crys ei hoff dîm."