Undebau amaethyddol â’r ffermwyr Ifanc yn gwesteio hystings Etholiad Cyffredinol yng Ngogledd Orllewin Cymru

Mae’r ddwy Undeb Amaethyddol a’r Ffederasiynnau Ffermwyr Ifanc lleol wedi dod at eu gilydd yng Ngogledd Orllewin Cymru i sicrhau bod eu haelodaeth yn cael y cyfle i holi ymgeiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol mewn cyfres o bedwar cyfarfod hystings yn yr ardal. 

Mae NFU Cymru, Mudiadau Sirol y Ffermwyr Ifanc, ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyd-weithio i gynnal hystings etholiadol ar gyfer etholaethau Aberconwy, Arfon, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn, gan wahodd yr holl ymgeiswyr i fynychu.  

Mae’r digwyddiadau i gymryd lle yn y lleoliadau canlynol:

Arfon – Nos Fercher 27ain o Dachwedd 2109 am 7:30yh yn Neuadd Bentref Caeathro, Caeathro

Ynys Môn – Nos Fawrth 3ydd o Ragfyr 2019 am 5:30yh yng Nghartio Môn, Bodedern

Aberconwy – Nos Fercher y 4ydd o Ragfyr 2019 am 7:30yh yn Ystafell Elwy, Canolfan Glasdir, Llanrwst

Meirionnydd Dwyfor – Nos Iau y 5ed o Ragfyr 2019 am 7:30yh yng Nghlwb Peldroed Porthmadog

Mewn datganiad ar y cyd nododd y mudiadau sy’n trefnu: “Mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol, ble mae ein dyfodol masnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd yn parhau yn aneglur, dyma gyfle pwysig i bob ffermwr holi ei ddarpar Aelod Seneddol ar sut maent yn gweld y ffordd ymlaen.

“Gyda llawer o’r drafodaeth wedi ei chanoli ar drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol, bydd y digwyddiadau yma hefyd yn gyfle  i’n haelodau sy’n ffermio i ymgysylltu gyda’r ymgeiswyr am rai o’r materion mwy lleol sydd yn effeithio ar ei bywoliaeth â’u cymunedau.

“Fe fyddem yn annog aelodau o’r gymuned amaethyddol i fanteisio ar y cyfle yma i gwestiynnu y rhai sydd am eu cynrychioli yn y senedd nesaf yn San Steffan.”