FUW yn galaru'r aelod dawnus Evan R

Latest News (CY) Trawiadau: 1062

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn galaru am Aelod Oes yr Undeb, Evan R Thomas, o Gaerfyrddin, sydd wedi’i ddisgrifio fel un o’r rhai mwyaf dawnus a deallus ers ffurfio’r FUW.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae’r FUW wedi colli un o hoelion wyth ffermio.

“Rwy’n ystyried Mr Thomas, neu Evan R fel roedd pawb yn ei adnabod, fel yr aelod mwyaf dawnus, galluog a deallus ers ffurfio’r FUW yn ystod 1955. Roedd yn ddyn eithriadol a rhyfeddol. Yn llythrennol, rhoddodd ei fywyd i'r FUW ac i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae ei gyfraniad wedi bod yn eithriadol ac mi wasanaethodd ar nifer fawr iawn o bwyllgorau.”

Gwasanaethodd Mr Thomas am 12 mlynedd ar Banel Cynghori Amaethyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Roedd yn gyn-aelod, ac yn gyn-Gadeirydd Rheoli Fferm Hwsmonaeth Arbrofol Trawscoed ac ef oedd y Cadeirydd ar adeg uno â Fferm Arbrofol Hwsmonaeth Pwllpeiran.

“Roedd hefyd yn aelod o Banel Apeliadau ALFf Cymru ac yn aelod o Banel Cwotâu Llaeth. Roedd ei gyfraniad yn ymestyn y tu hwnt i amaethyddiaeth a bu’n gwasanaethu ar Bwyllgor Cynghori Amaethyddol y BBC, Cyngor Defnyddwyr y Swyddfa Bost yng Nghymru ac roedd yn gyn-Gadeirydd ei gangen leol o’r Lleng Prydeinig,” ychwanegodd Glyn.

Y diweddar Evan R hefyd oedd yr aelod cyntaf un o FUW i ennill etholiad yn erbyn ymgeisydd a noddwyd gan NFU ar Fwrdd Marchnata Llaeth De Cymru yn ystod 1962. Roedd hwn yn garreg filltir arwyddocaol iawn yn hanes yr FUW a dangosodd y gallai'r Undeb ennill cefnogaeth ffermwyr yng Nghymru wrth iddynt fwrw pleidlais. Evan R arweiniodd y ffordd ac roedd hyn yn llwyddiant ysgubol.

“Bydd llawer ohonom yn cofio Evan R fel siaradwr cryf, penderfynol a phwerus yng nghyfarfodydd FUW o’n Prif Gyngor - corff llywodraethu FUW.

“Dros y blynyddoedd rydym wedi gwahodd llawer o wleidyddion i annerch y Prif Gyngor, ac mae’r mwyafrif ohonynt wedi dioddef her ddadleugar a chryf gan Evan R. Byddaf bob amser yn cofio, gydag anwyldeb, gweld Evan R ar ei draed, papurau yn ei law, yn herio'r siaradwyr hyn mewn ffordd gadarn, uniongyrchol ac effeithiol iawn bob amser,” ychwanegodd Glyn.

Anrhydeddwyd Evan R gyda MBE am Wasanaethau i Amaethyddiaeth yn ystod 1985.

Gan gyfeirio at y llyfr a gyhoeddwyd gan Evan R, gyda’r cydawdur Eiluned Rees, ‘Service & Survival: Llanstephan, Llanybri & Llangynog during World War 1’, dywedodd Llywydd yr Undeb: “Nid oes llawer o bobl yn cyhoeddi eu llyfr cyntaf pan fyddant yn 90 oed! Roedd yn ddyn eithriadol, yn ffrind ffyddlon i'r FUW ac i amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn alluog iawn. Tra ein bod ni gyd yn ei alaru, byddaf bob amser yn ddiolchgar ac yn falch fy mod wedi ei adnabod a’r pleser o weithio gydag ef. ”

Goreisir Evan R gan ei wraig, Olga a thair merch, Kathryn, Ingrid a Rosalie.