Ymrwymiad Aldi i roi hwb i Gig Eidion Cymru yn hwb enfawr i’r diwydiant

Mae’r newyddion bod un o archfarchnadoedd mwyaf Prydain, Aldi, wedi ymrwymo i stocio ystod newydd sbon o gynhyrchion Cig Eidion Cymru PGI ar draws dros 50 o siopau, yn cael ei ddisgrifio fel hwb mawr i'r diwydiant.

Wrth siarad ar ôl i’r cyhoeddiad swyddogol gael ei wneud yng Nghaerdydd (dydd Llun, 10 Chwefror) dywedodd dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir ac i’w groesawu. O ystyried yr ansicrwydd y mae ein ffermwyr yn ei wynebu ynghylch cytundebau masnach yn y dyfodol, mae cefnogi cyflenwyr lleol yn allweddol i sicrhau bod gennym ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru.

“Mae ffermwyr yng Nghymru yn cynhyrchu Cig Eidion Cymru PGI a Chig Oen Cymru PGI rhagorol, cynaliadwy ac rydym yn hyderus na fydd siopwyr yn cael eu siomi gan yr ystod newydd. Ni allaf ond annog archfarchnadoedd, bwytai, caffis ac unrhyw un arall sy'n ymwneud â'r gadwyn cyflenwi bwyd i ddilyn yr un esiampl."

O ddydd Mawrth, 12 Chwefror bydd ystod o dri ar ddeg o gynhyrchion gwahanol, gan gynnwys detholiad o stecen ffiled, stecen llygad yr asen a stecen syrlwyn, wedi aeddfedu am 28 a 21 diwrnod, yn ogystal â darnau rhostio a chig eidion wedi'u deisio, ar gael mewn dros 50 o siopau ledled Cymru.

Manteisiodd y dirprwy lywydd ar y cyfle hefyd i atgoffa Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad i adael yr UE yn gyfle i ailedrych ar gyfreithiau a pholisïau caffael.

“Mae Aldi yn gosod esiampl ragorol gyda’u hymrwymiad ac anogaf Lywodraeth Cymru a’r DU i gofio bod gennym gyfle yn awr i ailedrych ar gyfreithiau a pholisïau caffael mewn ffordd sy’n sicrhau bod cyrff cyhoeddus hefyd yn arwain trwy esiampl o ran cefnogi busnesau amaethyddol a bwyd Cymru.

“Rhaid i ni roi pwyslais pellach ar fuddion caffael lleol a gweithio i sicrhau y cedwir at yr egwyddorion a nodir yn y Cynllun Caffael Lleol mewn ffordd sy'n arwain at fuddsoddi ac o fudd i fusnesau’r DU.

“Ni ellir pwysleisio digon bod angen i ni gychwyn polisïau caffael sy’n annog creu cwmnïau a chwmnïau cydweithredol newydd sy’n caniatáu i fusnesau llai i dendro am gaffael, er mwyn dod â buddion o ran cyflogaeth leol ac unioni’r anghydbwysedd sy’n bodoli ar hyn o bryd drwy’r gadwyn gyflenwi.”