FUW yn annog eu haelodau i wneud apwyntiad SAF 2020

Latest News (CY) Trawiadau: 1092

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto wrth i ni ddechrau meddwl am y Ffurflenni Cais Sengl (SAF). Mae ffenestr y cais yn agor ddydd Llun 2 Mawrth ac mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn atgoffa ei aelodau bod staff y sir yma i helpu ac yn barod i gymryd y straen wrth lenwi'r ffurflen.

Mae'r FUW yn darparu'r gwasanaeth hwn yn arbennig ar gyfer aelodau taledig fel rhan o'u pecyn aelodaeth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd - gan arbed amser a phenbleth gwaith papur.

Dywedodd Rheolwr Aelodaeth a Gweithrediadau Caryl Roberts: "Yn ôl pob tebyg, y broses o gwblhau’r SAF yw'r un ymarferiad cwblhau ffurflen bwysicaf sy'n cael ei wneud gan ffermwyr Cymru ers 2004, ac mae canlyniadau ariannol gwallau ar y ffurflenni yn ddifrifol.

Nid yn unig y mae ein staff wedi'i hyfforddi'n dda ond maent wedi hen arfer â'r broses ymgeisio gymhleth.”

Gan fod Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn y dylid gwneud pob cais ar-lein, mae FUW yn canolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'w aelodau.

"Rwy'n annog ein haelodau a’r rhai sy’n llenwi ffurflenni am y tro cyntaf i gysylltu â'u swyddfa leol cyn gynted ag y bo modd i drefnu apwyntiad os bydd angen help i lenwi'r ffurflen," ychwanegodd Caryl Roberts.