FUW yn pwysleisio’r angen am fesurau cymorth brys i achub y sector llaeth

Mae sefyllfa Covid-19 wedi arwain at argyfwng yn y sector llaeth ac mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn pwysleisio’r angen am fesurau cymorth brys i achub y diwydiant.

Yn dilyn cau tafarndai, clybiau a bwytai ledled y DU ar ddiwedd mis Mawrth, mae rhai proseswyr llaeth, sy'n cyflenwi'r sector gwasanaeth wedi gweld eu marchnad yn diflannu a bod archebion yn cael eu canslo dros nos.

Mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gorfodi'r cau wedi arwain at ostyngiadau cyflym ym mhris y farchnad arian barod ar gyfer llaeth a, does dim dewis arall gan rai ffermwyr ond i waredu eu llaeth i lawr y draen oherwydd nad yw proseswyr yn gallu casglu’r llaeth.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Llaeth FUW, Dai Miles: “Mae'r sefyllfa'n dyngedfennol. Cafodd pris llawer o ffermwyr sydd â chytundebau gyda'r proseswyr llaeth hynny eu torri, mewn rhai achosion maent yn wynebu oedi wrth dalu ac nid oedd gan eraill unrhyw ddewis ond gwaredu eu llaeth.

“Hefyd, ni fydd y ffermwyr hynny yn cael iawndal gan eu cwmnïau yswiriant gan nad yw ‘Methiant y Farchnad’ yn rhan o bolisïau. Felly mae'r cynhyrchydd yn ysgwyddo'r holl gost a cholled.

“Nid yw hyn yn ymwneud ag ychydig o ffermwyr llaeth yn unig.  Mae'r goblygiadau hyn ar y sector llaeth cyfan yn aruthrol. Mae angen pecynnau cymorth ar unwaith.”

Mae tua 25% o ffermwyr llaeth yng Nghymru yn cyflenwi proseswyr sydd wedi cael eu heffeithio gan golli'r sector gwasanaeth.

Mewn telegynadleddau gyda Llywodraeth y DU a Chymru, mae'r Undeb wedi pwysleisio bod yna lawer sydd ddim yn cael eu hamddiffyn a bydd eu busnesau yn methu os na chynigir unrhyw gymorth.

“Nid yw rhai o’r ffermwyr llaeth hyn yn gymwys ar gyfer y pecynnau cymorth ariannol presennol a gyhoeddwyd gan y Trysorlys a bydd methiant y ffermydd hyn yn achosi goblygiadau difrifol i’r gadwyn gyflenwi gwasanaeth bwyd pan fydd y marchnadoedd yn dychwelyd i sefyllfa fwy arferol,” ychwanegodd Dai Miles.

Er y gobeithir, mae yn y tymor byr bydd yr ymyrraeth i’r farchnad, mae'n hanfodol bod y gallu i gynhyrchu trwy gefnogaeth i ffermwyr llaeth a'r gallu prosesu yng Nghymru yn cael ei amddiffyn a'i gynnal.

Nid oes un mesur yn unig a fydd yn datrys y problemau, ac mae angen edrych ar becyn o fesurau, pwysleisiodd Mr Miles.

Ychwanegodd: “Mae rhai o’r mesurau rydyn ni wedi gofyn amdanyn nhw yn cynnwys pecyn cymorth ariannol wedi’i deilwra gan y Trysorlys gydag arweiniad i ffermwyr, pecyn ariannol brys tymor byr i ad-dalu pris litr safonol i’r ffermwyr llaeth hynny sy’n gorfod gwaredu llaeth, ymyrraeth a Chymorth Storio Preifat, yn ogystal â atal dogni cynhyrchion llaeth yn y sector manwerthu.

 

“Mae diogelu'r cyflenwad bwyd yn fater sydd wedi cael ei amlygu fwyfwy yn ystod y pandemig hwn gyda phrynu panig a silffoedd gwag, ac mae angen i ni sicrhau bod y cynhyrchwyr a'r proseswyr yn parhau mewn busnes er mwyn bwydo'r cyhoedd pan fydd hyn drosodd.

“Mae hyn yn fater o frys ac mae angen i’r Llywodraeth roi mesurau ar waith ar frys, nid yw’r sefyllfa hon yn mynd i wella yn y dyfodol agos, ac nid ydym am weld ein diwydiant llaeth yn cael ei ddifrodi ymhellach. Rhaid ystyried pob opsiwn o ddifrif. ”