Pwyllgor Llaeth FUW yn annog y cyhoedd i weini te prynhawn gartref yn ystod argyfwng Covid-19

Am hanner awr wedi tri, gadewch bopeth am de. Mae’r hen draddodiad o ‘de prynhawn’ wedi gweld adfywiad dros y blynyddoedd diwethaf, gan ei wneud yn wledd boblogaidd i lawer.

Gyda bwytai, gwestai a chaffis yn parhau ar gau oherwydd argyfwng cyfredol Covid-19, mae pwyllgor Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog y cyhoedd i ail greu’r profiad yn eu cartrefi.

“Rydyn ni i gyd yn mwynhau te prynhawn fel trît arbennig. Naill ai mewn plasty, gwesty crand neu mewn caffis ledled y wlad. Ond wrth gwrs, nid yw ein holl opsiynau arferol o fwynhau cacennau, brechdanau, a danteithion eraill yn bosib am y tro.

“Felly beth am weini te prynhawn gartref? Beth am y sgons a'r hufen, cacennau hufen ffres, yr hen debotiau a’r llestri gorau arall? Beth am holi i’r plant wneud y cacennau a'r brechdanau?

Nid yn unig bydd y plant yn brysur am gyfnod, yn rhoi cyfle i ddod at eich gilydd fel teulu a mwynhau achlysur arbennig gartref, ond mae hefyd yn helpu ein ffermwyr llaeth,” meddai Dai Miles, cadeirydd Pwyllgor Llaeth FUW.

Anogir y rhai sy'n gweithio gartref hefyd i gymryd seibiannau rheolaidd oddi wrth eu desgiau a rhoi'r tegell ymlaen.

“Mae’n gyfnod anodd i bawb ac efallai bod gweithio o adref yn brofiad caled iawn i rai. Nid yw'r drefn arferol o gael coffi cyn gwaith neu amser cinio yn eich hoff gaffi yn bosib ar hyn o bryd, ond beth am roi'r tegell ymlaen a gwneud eich hoff goffi neu de gartref.

“Mae yna bentwr o fanteision o gynnwys llaeth yn ein dietau a pha ffordd well o gymryd seibiant o waith papur na gyda phaned boeth o de neu goffi llaethog,” ychwanegodd Mr Miles.