FUW yn annog gwella’r broses o gaffael bwyd domestig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, yn amlinellu’r angen brys i ddiogelu'r cyflenwad o fwyd domestig a chynhyrchwyr cynradd trwy sicrhau bod y broses gaffael yn cyd-fynd yn iawn â Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn ei lythyr, pwysleisiodd Llywydd FUW Glyn Roberts ei bod hi’n hanfodol nad yw'r broses caffael bwyd yn gosod pris uwchlaw'r holl ffactorau a gweithrediadau eraill mewn ffordd sy'n amddiffyn diogelu'r cyflenwad o fwyd domestig, yn amddiffyn y gadwyn gyflenwi bwyd ac yn sicrhau hyfywedd tymor hir ein cynhyrchwyr bwyd a'u busnesau.

“Mae’r pandemig Covid-19 presennol wedi rhoi pwysau sylweddol ar y diwydiant ffermio, gydag effaith amrywiol ar gadwyni cyflenwi bwyd. Er bod prynu panig a ffactorau eraill wedi arwain at brinder sylweddol o rai bwydydd, mae gwerthiant cynnyrch trwy gaffis a siopau eraill wedi gostwng yn sylweddol. Mae hyn wedi arwain at doriadau mawr ym mhrisiau llawer o'n cynhyrchwyr cig coch a llaeth.

“Mae'r pandemig wedi pwysleisio’r pwysigrwydd o gynnal diogelu cyflenwad bwyd y DU ac mae'n hanfodol bod y busnesau hynny sy'n cynhyrchu ein nwyddau mwyaf hanfodol yn cael eu cefnogi a'u cydnabod yn y tymor byr a'r tymor hir,” ysgrifennodd Mr Roberts.

Mae hyn, mae'n pwysleisio, yn arbennig o berthnasol o ystyried bod sector amaethyddol Cymru eisoes dan bwysau gan lawer o ansicrwydd arall o fewn y diwydiant, nid lleiaf gan y rhai sy'n gysylltiedig â Brexit ac awydd cyfredol Llywodraeth Cymru am gynyddu rheoleiddio amaethyddol y tu hwnt i'r hyn sy’n wynebu ein cystadleuwyr byd-eang.

“Er bod yr FUW yn gwerthfawrogi nad yw cynyddu a hyrwyddo caffael bwyd domestig yn ateb i broblemau cyfredol y diwydiant, credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cydnabod ein gweithwyr allweddol ac yn arwain trwy esiampl wrth gaffael bwydydd er mwyn amddiffyn hyfywedd a chynaliadwyedd y ffermydd a'r busnesau teuluol hynny sy'n hanfodol i sicrhau bod gan y DU digon o gyflenwad bwyd,” ychwanegodd.