Ffermwyr yn galw ar y cyhoedd i helpu i osgoi effeithiau andwyol tymor hir ar ddiogelu cyflenwad bwyd y DU ac iechyd cwsmeriaid

Mae ffermwyr yng Nghymru yn galw ar y cyhoedd i'w helpu i osgoi effeithiau andwyol tymor hir ar ddiogelu cyflenwad bwyd y DU ac iechyd cwsmeriaid.

Daw’r alwad o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn rhwystro newid i’r Bil Amaethyddiaeth a fyddai’n atal bwyd a gynhyrchir i safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol is nag sy’n ofynnol gan gynhyrchwyr y DU rhag cael eu mewnforio i’r DU ar ôl y cyfnod Ymadael Brexit.

Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Pa bynnag ffordd y pleidleisiodd eich AS, nid yw’n rhy hwyr i’w lobïo er mwyn ailgyflwyno’r newid cyn i’r Bil Amaethyddiaeth ddod yn gyfraith.

“Mae modd i chi anfon llythyr atynt o'n gwefan sy’n datgan yn glir bod cwsmeriaid a chynhyrchwyr bwyd y DU yn haeddu gwell, a gadael i'ch llais gael ei glywed.”

Ers cael ei ddrafftio gan Lywodraeth y DU, mae'r Bil Amaethyddiaeth sy'n mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd, wedi cynnwys cymal a fyddai'n sicrhau bod bwyd organig wedi'i fewnforio o wlad dramor yn cael ei gynhyrchu i safonau sy'n cyfateb i'r rhai sy'n berthnasol yn y DU.

Gwrthwynebwyd ymgais i gyflwyno cymal tebyg a fyddai’n mynnu bod yr holl gynnyrch neu fwyd amaethyddol sy’n cael ei fewnforio i'r DU o dan gytundeb masnach, yn cael ei gynhyrchu i’r safonau iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a diogelu'r amgylchedd hynny sy'n ofynnol yn y DU, a chafodd ei drechu yn ystod Trydydd Darlleniad y Bil ar 13 Mai 2020.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’r fath egwyddor mewn nifer o ddatganiadau, a bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r egwyddor o gynnal safonau'r DU ac amddiffyn cwsmeriaid, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd rhag mewnforion o safon is.  Os yw’r cyhoedd eisiau helpu - ffordd dda yw ymuno â’n hymgyrch i atal y gwallgofrwydd hwn,” ychwanegodd Mr Roberts.

Mae ffermwyr, cwsmeriaid, cadwraethwyr a chyrff lles anifeiliaid yn unedig yn eu cefnogaeth o ychwanegiad o’r fath i’r Bil, ac mae’r cyhoedd yn llwyr gefnogol hefyd.

“Rwyf felly yn eich annog, i holi i’ch AS i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y Cymal 2 arfaethedig neu ychwanegiad cyfatebol i'r Bil yn cael ei gynnwys yn y pen draw cyn iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol.

“Bydd methu â sicrhau newid o'r fath i'r Bil yn cael effeithiau andwyol tymor hir ar ddiogelu cyflenwad bwyd y DU, iechyd cwsmeriaid, ein diwydiant amaeth, lles anifeiliaid byd-eang ac ecosystemau yn ogystal ag arwain at ddifrod gwleidyddol sylweddol i Lywodraeth y DU.

I gysylltu gyda’ch AS trwy wefan FUW, ewch i: https://www.fuw.org.uk/cy/polisi/cysylltwch-a-ch-as-lleol