Arglwyddi yn ystyried prif bryderon FUW mewn ail ddarlleniad o’r Bil Amaethyddol

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Glyn Roberts, wedi croesawu’r ffaith bod y prif bryderon a godwyd gan FUW mewn gohebiaeth ag aelodau Tŷ’r Arglwyddi wedi cael eu hadleisio gan aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol ddoe wrth i’r Bil Amaethyddiaeth dderbyn ei ail ddarlleniad yn y tŷ.

Mae'r bil – sy’n cael ei ystyried fel y darn pwysicaf o ddeddfwriaeth y DU mewn perthynas â bwyd a ffermio ers dros 70 mlynedd - yn cynnwys cymal a fyddai'n sicrhau bod bwyd organig wedi'i fewnforio o wlad dramor yn cael ei gynhyrchu i safonau sy'n cyfateb i'r rhai sy'n berthnasol yn y DU.

Fodd bynnag, gwrthwynebodd Llywodraeth y DU ymgais i gyflwyno cymal tebyg a fyddai’n mynnu bod yr holl gynnyrch neu fwyd amaethyddol sy’n cael ei fewnforio i'r DU o dan gytundeb masnach, yn cael ei gynhyrchu i’r safonau iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a diogelu'r amgylchedd hynny sy'n ofynnol yn y DU, a chafodd ei drechu yn ystod Trydydd Darlleniad y Bil ar 13 Mai 2020.

Mewn llythyr at aelodau Tŷ’r Arglwyddi, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts, “Mae hyn wedi gwylltio ffermwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd, nid lleiaf o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’r fath egwyddor mewn nifer o ddatganiadau, a bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r egwyddor o gynnal safonau'r DU ac amddiffyn cwsmeriaid, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd rhag mewnforion is-safonol.

"Hefyd, mae cefnogaeth i gyflwyno cymal o'r fath wedi uno cyrff amaethyddol, grwpiau amgylcheddol a lles anifeiliaid mewn modd nas gwelwyd o'r blaen."

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i bwysleisio bod yr UE wedi ceisio cynnal safonau cynhyrchu uchel yng ngwledydd yr UE ers nifer o flynyddoedd a chywerthedd bwyd sy'n dod i mewn i Farchnad Sengl yr UE o wledydd sydd â chytundeb masnach.

“Byddai’n dditiad trist o’r broses Brexit a’r rhai a wnaeth addewidion niferus ynglŷn ag amddiffyn ein marchnadoedd a’n safonau ar ôl y Cyfnod Ymadael pe bai Senedd y DU yn caniatáu gostwng y safonau cyfredol yn fwriadol neu’n anfwriadol ac yn dechrau aberthu safonau ar adeg pan mae materion lles anifeiliaid, newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a diogelu’r cyflenwad bwyd ar frig agendâu ledled y byd,” nododd y llythyr.

Wrth siarad ar ôl y darlleniad, dywedodd Mr Roberts: “Rydym yn croesawu’n fawr y ffaith bod ein pryderon yn cael eu hadlewyrchu mewn areithiau o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn ogystal â chan aelodau annibynnol Tŷ’r Arglwyddi.”

Cododd Mr Roberts bryderon ffermwyr a chwsmeriaid hefyd mewn cyfarfod diweddar ag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA George Eustice, a ddisgrifiodd fel un ‘positif’.

“O ystyried sut y mae pandemig coronafirws wedi dangos yn glir i gwsmeriaid a gwleidyddion sut y gall argyfyngau byd-eang amharu’n gyflym ar gadwyni cyflenwi a diogelu’r cyflenwad bwyd, mae unrhyw symudiadau sy’n tanseilio ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd y DU - ac felly diogelu ein cyflenwad o fwyd - trwy ffafrio mewnforion a gynhyrchir i safonau is yn gam gwag o ystyried ein bod ni wedi bod o dan fygythiad diweddar i pandemigau neu argyfyngau mwy difrifol,” meddai Mr Roberts.