FUW yn cynnal Cynhadledd rithwir Iechyd Meddwl Cymru Gymru

Yn anffodus mae iechyd meddwl gwael a hunanladdiad mewn cymunedau gwledig a ffermio yn broblem gynyddol ac yn un y mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ymrwymo i fynd i’r afael â.

Gan agosáu at y bedwaredd flwyddyn o godi ymwybyddiaeth a gwneud popeth o fewn gallu i helpu i dorri'r stigma, mae'r Undeb yn cynnal Cynhadledd rithwir Iechyd Meddwl Cymru Gymru, ddydd Gwener 9 Hydref 2020 trwy Zoom, cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae FUW yn deall y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar allu unigolyn i brosesu gwybodaeth a datrys problemau, sugno eu hegni a’u cymhelliant, a chynyddu ymddygiad byrbwyll. Tra bod y symptomau'n cael eu trin, yn aml iawn, nid yw achosion sylfaenol y materion hyn yn cael sylw.

“Felly bydd y gynhadledd hon yn mynd y tu hwnt i’r pwyntiau trafod arferol ac yn archwilio’r pwnc ymhellach. Mae'n ddigwyddiad agored ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl ymuno â ni, yn rhithwir, ar y diwrnod.”

Mae’r ffermwr a hyrwyddwr iechyd meddwl o Seland Newydd, Doug Avery, hefyd yn cefnogi'r digwyddiad gyda neges fideo yn rhannu ei brofiad o iechyd meddwl. Bydd rhagolwg hefyd i'w lyfr newydd yn dilyn llwyddiant ysgubol The Resilient Farmer (https://www.resilientfarmer.co.nz/).

Bydd sesiwn y bore yn archwilio cyd-destun ehangach iechyd meddwl gwael mewn cymunedau gwledig a pha gamau y mae'n rhaid i'r Llywodraeth, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a’r llunwyr polisi eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, yn enwedig gan fod Covid-19 wedi rhoi pwysau pellach nid yn unig ar iechyd meddwl pobl ond hefyd eu cyllid.

Ymhlith y siaradwyr ar gyfer sesiwn y bore, sy'n dechrau am 10.30yb ac sy'n cael ei gadeirio gan Brif Ohebydd y Farmers Guardian, Abi Kay: 

  • Sara Lloyd, Arweinydd Tîm, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Ceredigion
  • Cath Fallon, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Menter ac Animeiddio Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy
  •   Lee Philips, Rheolwr Cymru, Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • John Forbes-Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Lles Meddwl, Cyngor Sir Ceredigion

Bydd sesiwn y prynhawn, sy'n dechrau am 2yp, yn cymryd agwedd mwy ymarferol ac yn clywed gan elusennau iechyd meddwl gwahanol ymroddedig sy'n cynnig cyngor ymarferol i'r rhai sy'n cefnogi anwylyn sy’n mynd trwy faterion meddyliol yn ogystal â'r rhai sy'n profi iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd.

Ymhlith y siaradwyr ar gyfer sesiwn y prynhawn, sy'n cael ei gadeirio gan y Cyflwynydd Teledu adnabyddus Alun Elidyr, mae:

Gareth Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Tir Dewi

David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Farming Community Network

Kate Miles, Rheolwr Elusen, The DPJ Foundation

Linda Jones, Rheolwr Rhanbarthol, RABI Cymru

 

Mae'r gynhadledd yn ddigwyddiad agored a gall y rhai sy'n dymuno ymuno gofrestru yma:

https://www.eventbrite.co.uk/e/all-wales-mental-health-conference-tickets-121009788535