FUW yn atgoffa aelodau bod dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol yn agosáu

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn atgoffa’r ffermwyr hynny sydd wedi cyflwyno cais am y Cynllun Taliad Sylfaenol trwy'r Ffurflen Gais Sengl (SAF) 2020 bod yr amser i wneud cais am daliad Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2020 yn agosáu, gyda’r dyddiad cau ar ddydd Gwener, 27 Tachwedd.

O’r 7fed o Ragfyr, bydd y cynllun yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad Cynllun Taliad Sylfaenol busnes unigol i ymgeiswyr llwyddiannus nad yw eu cais Cynllun Taliad Sylfaenol llawn yn cael ei brosesu i’w dalu erbyn 1 Rhagfyr. Gan mai cynllun optio i mewn yw hwn, mae'n rhaid i ffermwyr wneud cais am y benthyciad trwy eu cyfrif RPW Ar-lein.

Dywedodd Swyddog Gweithredol FUW Sir Benfro, Rebecca Voyle: “Disgwylir y bydd y taliadau benthyciad yn cael eu gwneud yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 7 Rhagfyr 2020 a bydd holl daliadau benthyciad y Cynllun Taliad Sylfaenol yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc ffermwyr.”

Bydd gwerth y benthyciad a delir i ffermwyr yn uchafswm o 90% o amcangyfrif eu taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol 2020, a fydd yn seiliedig ar yr ardal a ddatganwyd ar y Ffurflen Cais Sengl 2020 a nifer yr hawliau talu a ddelir ar 15 Mai 2020.

“Hoffwn annog pob ffermwr cymwys i ystyried gwneud cais cyn y dyddiad cau gan na fydd cyfle pellach i wneud cais am fenthyciad Cynllun y Taliad Sylfaenol ar ôl 27 Tachwedd.

“Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chwblhau eich cais am fenthyciad Cynllun y Taliad Sylfaenol, gallwch naill ai gysylltu â Chanolfan Cyswllt Cwsmer RPW ar 0300 062 5004, neu eich swyddfa sir leol,” ychwanegodd Mrs Voyle.