Rheolwr Gyfarwyddwr Newydd i Undeb Amaethwyr Cymru

Mae’n bleser gan UAC gyhoeddi rȏl newydd - Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp UAC (Undeb Amaethwyr Cymru) fydd yn goruchwylio gwaith yr Undeb ar ran y diwydiant amaeth, a gwasanaethau cwmni yswiriant llwyddiannus FUWIS (Farmers’ Union of Wales Insurance Services).

Yn dilyn proses apwyntio, a weinyddwyd ar y cyd rhwng UAC a FUWIS, penodwyd Guto Bebb i’r swydd. Mae Guto Bebb eisoes, ers mis Ebrill 2020, yn Rheolwr Gyfarwyddwr FUWIS.

Mae Mr Bebb, sy’n byw yng Nghaernarfon, yn gyn-Aelod Seneddol Aberconwy, yn gyn Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn gyn-Weinidog Caffael yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae, o ganlyniad, yn gyfarwydd iawn â byd polisi cyhoeddus.

Cyn cychwyn ar ei yrfa wleidyddol bu Mr Bebb yn ymgynghorydd busnes ac yn gyfarwyddwr cwmni. Bu ei brofiad masnachol o gryn ddefnydd iddo pan yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan ac wrth reoli cyllideb gaffael aml-filiwn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Wrth groesawu’r apwyntiad dywedodd Glyn Roberts, Llywydd UAC:  “Rwy’n hynod falch o groesawu Guto i’r swydd newydd hon. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn llais i’r diwydiant amaeth ers 1955. Bydd sawl her yn wynebu’r sector dros y blynyddoedd nesaf megis canfod marchnadoedd newydd, a thrafod strwythur ariannu newydd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth addasu i farchnad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd bydd heriau megis newid hinsawdd, ynghyd â goblygiadau newid cyfansoddiadol yn agosach i adref yn faterion y bydd yn rhaid inni fod yn barod ar eu cyfer.

“Hyderaf y bydd profiadau a sgiliu Guto yn gefn mawr i mi a gweddill y bwrdd yn ogystal a’r tîm llywyddol dros y blynyddoedd nesaf. Mae FUWIS yn gwmni sy’n tyfu ac yn darparu gwasanaethau allweddol i’r sector amaeth yng Nghymru. Gyda Guto wrth y llyw rydym eisoes wedi gweld twf calonogol iawn yn y cwmni, nid yn unig o fewn y byd amaeth ond hefyd yn y farchnad ehangach, oherwydd safon uchel ein gwasanaeth a’i natur gymunedol, agos-atoch-chi.”

Meddai Guto Bebb: “Mae’n braf bod yng nghanol bwrlwm busnes yng Nghymru ac rwy’n falch o  ymgymryd â’r her o arwain y tîm o staff o fewn Undeb Amaethwyr Cymru oherwydd bod angen llais cryf ar y sector amaeth yng Nghymru nawr yn fwy nag erioed.  Dwi’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau, staff  a thîm arweinyddol etholedig yr Undeb ar draws holl weithgaredd y grŵp.

Y bwriad yw i fyrddau UAC a FUWIS barhau gan fod ganddynt eu swyddogaethau a’u hanghenion penodol, ond mi fydd cyfle i sicrhau strwythur gweinyddol newydd, a fydd yn dwysau’r cydweithio ac yn creu effeithiolrwydd ariannol fydd o fantais i’n haelodau a’n cwsmeriaid.  Yn ei dro bydd hyn yn arwain at adeiladu corff unedig, cryf a fydd yn gallu canolbwyntio’n fwy effeithiol ar y tasgau sydd o’n blaenau.

Bydd Mr Bebb yn cymryd yr awenau ar yr 8fed o Chwefror 2021.