Ydych chi'n gwybod beth i'w wneud os bydd cŵn yn poeni da byw ar eich tir?- UAC i gynnal gweminar wybodaeth

Mae Undeb Amaethwyr Cymru, ar y cyd â CFfI Cymru a FUWIS, yn cynnal gweminar ar gŵn yn poeni da byw er mwyn mynd i'r afael â'r digwyddiadau cyfredol o gŵn yn poeni da byw ledled Cymru. 

Bydd y gweminar, sydd yn agored i holl aelodau UAC, CFfI a chwsmeriaid FUWIS, yn cael ei chynnal nos Iau 25 Chwefror am 7yh trwy Zoom.

Bydd y gweminar yn clywed gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a Chadeirydd grŵp Troseddau Da Byw Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu Rob Taylor a'r Heddwas Dave Allen, Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru ac ysgrifennydd Grŵp Troseddau Da Byw Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu, Swyddog Gweithredol Cyfrif FUWIS Gwenno Davies, ffermwr da byw o Geredigion, Wyn Evans a Chadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru Clare James yn cadeirio'r sesiwn Holi ac Ateb.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Dirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman, a fydd yn cadeirio’r digwyddiad: “Mae ffermwyr ledled Cymru yn parhau i wynebu colledion oherwydd bod cŵn yn erlid neu'n ymosod ar dda byw. Mae'n parhau i fod yn destun rhwystredigaeth sylweddol i'r sector da byw yng Nghymru.

“Mae mentrau diwydiant, fel ymgyrch UAC 'Cyfrifol Dros Eich Ci ' a ehangodd y neges i barchu cefn gwlad, codi baw eich ci, cadw cŵn ar dennyn ger da byw a sicrhau nad yw cŵn yn dianc o'u cartref, wedi cael rhywfaint o effaith ond mae yna lawer o gwestiynau o hyd gan ffermwyr ynghylch sut y gallant amddiffyn eu hunain a'u da byw rhag digwyddiadau o'r fath.

“Felly rydym yn cynnal gweminar gwybodaeth, a fydd yn edrych ar sut mae angen i ffermwyr roi gwybod am ddigwyddiadau o gŵn yn poeni da byw, clywed yr hyn y mae'r gyfraith yn dweud y gall ffermwyr ei wneud a beth yw hawliau cyfreithiol sifiliaid.  Byddwn hefyd yn archwilio pa yswiriant sydd ar gael i ffermwyr er mwyn amddiffyn eu hasedau rhag ymosodiadau cŵn. Gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar y noson. ”

Am fanylion ymuno, cysylltwch â'ch swyddfa UAC leol neu CFfI Cymru.