UAC yn edrych ymlaen at Sioe Frenhinol Cymru rithwir

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn edrych ymlaen at wythnos Sioe Frenhinol Cymru rithwir brysur ac yn cynnal amrywiaeth o weminarau yn trafod tai gwledig, newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl a dyfodol cysylltedd digidol i Gymru. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Fel llawer o rai eraill, roeddem wedi gobeithio gallu bod ar faes y sioe yn bersonol eleni. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn parhau i fod yn uchafbwynt ein calendr ffermio, ac er na allwn gwrdd wyneb yn wyneb, rydym yn gyffrous i drafod rhai o'r materion mwyaf allweddol sy'n wynebu ein diwydiant yn rhithwir unwaith eto. Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi'n gallu ymuno â ni ar gyfer y digwyddiadau hyn." 

Yn ogystal â'r gweminarau, mae'r Undeb hefyd yn lansio teclyn lobïo trwy ei gwefan, a fydd yn caniatáu i aelodau a'r cyhoedd ysgrifennu at eu cynrychiolwyr etholedig i dynnu sylw at eu pryderon dybryd ynglŷn â'r Cytundeb Fasnach Rydd ag Awstralia. 

Mynd i'r afael â'r Argyfwng Tai Gwledig 

Ysgrifennodd UAC at Lywodraeth Cymru ddeuddeg mis yn ôl yn galw am weithredu i atal cynnydd anochel yn y pwysau ar dai gwledig o ganlyniad i'r pandemig coronafirws, ac ers hynny mae'r mater wedi dod yn realiti ac wedi cyrraedd y penawdau cenedlaethol. 

Bydd y mater yn destun gweminar Mynd i'r afael â'r Argyfwng Tai Gwledig yr Undeb ar nos Lun 12 Gorffennaf am 7yh trwy Zoom, a fydd hefyd yn cael ei ddangos ar wefan Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun 19 Gorffennaf am 12.30yp. 

“Mae cymunedau gwledig ledled y DU wedi bod dan bwysau oherwydd perchnogaeth ail gartref ac effeithiau cysylltiedig ers degawdau, yn enwedig mewn ardaloedd poblogaidd fel Parciau Cenedlaethol, ond mae'r pandemig wedi cyflymu'r duedd, gan achosi chwyddiant cyflym mewn prisiau tai a gosod tai gwledig hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i gyrraedd ariannol cymunedau gwledig ac amaethyddol,” meddai Llywydd UAC, Glyn Roberts. 

Yn ymuno â'r seminar, sy'n cael ei gadeirio gan Brif Ohebydd y Farmers Guardian Abi Kay, mae AS Cymbria a chyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron; Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd a chyd-gadeirydd Fforwm Gwledig CLlLC Dyfrig Siencyn ac arweinydd Cyngor Tref Nefyn ac ymgyrchydd Hawl i Fyw Adra Rhys Tudur. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod y problemau sy’n wynebu cymunedau yng Nghymru a Lloegr ac archwilio atebion sy’n fwy dychmygus nag adeiladu mwy o dai yn unig,” ychwanegodd Glyn Roberts. 

Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y weminar hon ar nos Lun 12 Gorffennaf am 7yh:

https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_iCUDKYg4QFS4b7nEddIvLg 

Cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd:

Gan fynd i’r afael â phryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd a chynhyrchu bwyd, bydd panel o arbenigwyr yn trafod ‘Cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd’. Mae'r digwyddiad, a gynhelir nos Fawrth, 13 Gorffennaf am 7yh trwy Zoom, yn agored i bawb, a bydd hefyd yn cael ei ddangos yn Sioe Frenhinol Cymru rithwir ar ddydd Mawrth 20 Gorffennaf am 12.30yp. 

Dirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman, sy'n cadeirio'r digwyddiad ac yn ymuno â'r panel o brif siaradwyr mae Pennaeth Polisi UAC Dr Nick Fenwick a fydd yn mynd i'r afael â'r mater o leihau nifer y da byw a phlannu coed yng Nghymru; bydd Laura Ryan o'r Gynghrair Cig Byd-eang yn mynd i'r afael â chig byd-eang a sgwrs yr Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig; bydd Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Chydberthynas Hybu Cig Cymru, John Richards yn mynd i’r afael â rôl ffermio da byw i wella bioamrywiaeth a chynefinoedd yn gadarnhaol, wrth ddarparu bwyd cynaliadwy, maethlon; bydd Prif Weithredwr Dairy UK, Dr Judith Bryans yn rhoi cyflwyniad ar bersbectif llaeth byd-eang a bydd Llywydd UAC Glyn Roberts a'i ferch Beca Glyn yn trafod newid yn yr hinsawdd a ffermio gyda'r amgylchedd mewn golwg o safbwynt llawr gwlad. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Dirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman: “Mae 2021 yn flwyddyn bwysig i’r mathau hyn o sgyrsiau. Mae Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig a COP26 ar y gorwel. Mae UAC wedi bod yn ymgysylltu â'r sgyrsiau hyn ar lefel ryngwladol ac yn rhannu rhai pryderon â diwydiannau eraill ledled y byd am y naratif a'r uchelgeisiau ehangach a nodir mewn dogfennau a chynlluniau anamlwg sy'n ceisio mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a dulliau cynhyrchu bwyd anghynaliadwy canfyddedig. 

“Rydyn ni am barhau’r sgwrs, codi ymwybyddiaeth ymysg defnyddwyr a ffermwyr a threiddio’n ddyfnach i’r trafodaethau ar newid hinsawdd a chynhyrchu bwyd. Gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni naill ai ar y noson neu ddal i fyny gyda'r digwyddiad yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.” 

Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y weminar hon ar nos Fawrth 13 Gorffennaf am 7yh:

https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_Dc0e9EtzQn6hbJjpc3QOEw

Iechyd Meddwl - sut wyt ti?: 

Yn Sioe Frenhinol Cymru 2017, ymrwymodd UAC i gadw’r sylw ar faterion iechyd meddwl cyhyd â’i fod yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau gwledig. Wrth agosáu at y bumed flwyddyn o godi ymwybyddiaeth a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i dorri'r stigma, gofynnwn - sut wyt ti?

Ynghyd â'r elusennau ffermio blaenllaw yng Nghymru, edrychwn ar yr hyn sydd wedi newid, pa mor bell yr ydym wedi dod a pha faterion sy'n parhau. Yn dwyn y teitl ‘Iechyd Meddwl- sut wyt ti?’, bydd cynrychiolwyr o’r DPJ Foundation, y Rhwydwaith Cymuned Ffermio, Tir Dewi a'r Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol yn ymuno â UAC. 

Bydd y digwyddiad rhithwir yn cael ei gynnal ar nos Iau 15 Gorffennaf am 7yh trwy Zoom a bydd hefyd yn cael ei ddangos yn ystod Sioe Frenhinol Cymru rithwir, ddydd Iau 22 Gorffennaf am 12.30yp. 

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts, sy’n cadeirio’r digwyddiad: “Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i lawer ohonom. Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi gweld llawer ohonom yn cael ein gwahanu'n oddi wrth ffrindiau, teulu ac anwyliaid. Ychwanegodd straen bywyd bob dydd, cynnal busnes fferm a dysgu plant gartref at y pwysau. 

“Yn ychwanegol at hynny mae’n rhaid i’r gymuned ffermio ymdopi â’r rheoliadau Llygredd Amaethyddol newydd, TB, ansicrwydd ynglŷn â chytundebau masnach ac edrych ar newidiadau mawr i’r polisi ffermio. Mae’n deg dweud ein bod yn wynebu’r storm berffaith. 

“Gyda hyn i gyd yn digwydd, rydym unwaith eto yn ymuno â’n helusennau i drafod sut maen nhw wedi gallu helpu dros y 12 mis diwethaf, pa help sydd ei angen arnyn nhw i fynd i’r afael â’r galw cynyddol ar wasanaethau iechyd meddwl ac archwilio’r hyn rydyn ni ein hunain yn ei wneud i gynnal iechyd meddwl da. Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi'n gallu ymuno â ni naill ai ar gyfer y digwyddiad byw neu ddal i fyny gyda ni trwy blatfform rhithwir Sioe Frenhinol Cymru."

Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y weminar hon ar nos Iau 15 Gorffennaf am 7yh:

https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_7VwuItRRQQuZ0j9jXMuN-Q 

‘Cysylltedd digidol: Mynd i’r afael â’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad’

Yn dilyn arolwg, a gynhaliwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru, a ddangosodd fod mwy na 50% o’r ymatebwyr o ardal wledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yr oedd ganddynt fynediad iddo yn gyflym ac yn ddibynadwy, cynhelir digwyddiad arbennig ar gysylltedd digidol i drafod y canfyddiadau a dyfodol cysylltedd digidol i Gymru.  

Cynhelir y digwyddiad, dan yr enw ‘Cysylltedd digidol: Mynd i’r afael â’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad’ ar ddydd Llun 19 Gorffennaf am 12.30yp trwy Zoom a bydd yn cael ei ffrydio trwy wefan digwyddiadau Sioe Frenhinol Cymru. 

Y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer y digwyddiad, a fydd yn cael ei gadeirio gan Katie Davies – Cadeirydd CFfI Cymru, yw Elinor Williams – Pennaeth Materion Rheoliadol Ofcom Cymru, Nick Speed – Cyfarwyddwr Cymru BT Group, Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a Kim Mears OBE – Rheolwr Gyfarwyddwr Datblygu Seilwaith Strategol Openreach. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Katie Davies: “Mae canfyddiadau’r arolwg felly’n destun pryder gwirioneddol. Er gwaethaf llawer o addewidion gan lywodraethau’r DU a Chymru dros y blynyddoedd, mae wedi dod yn amlwg na aed i’r afael â’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad. 

“Bydd ein gweminar yn rhoi cyfle inni siarad â chynrychiolwyr y diwydiant am y canlyniadau a’r hyn maen nhw’n ei wneud i wella’r sefyllfa i’n cymunedau gwledig ac amaethyddol yn awr ac yn y dyfodol agos.”

I ymuno â’r digwyddiad rhithwir ar ddydd Llun 19 Gorffennaf am 12.30yp, cofrestrwch ymlaen llaw yma:

https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_JIeV2f_cSGqRv3K_RKMjAA  

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau, cysylltwch â Phennaeth Cyfathrebu UAC, Anne Dunn (This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.)