Amddiffyn eich busnes, Amddiffyn eich teulu - canolbwyntio ar ddiogelwch fferm yn Sioe Frenhinol Cymru

Bydd y sylw’n cael ei roi ar ddiogelwch ar ffermydd a sut y gall ffermwyr amddiffyn eu hunain a'u busnes mewn gweminar, a gynhelir gan Wasanaethau Yswiriant FUW Ltd yn y Sioe Frenhinol Cymru rithwir. Mae'r digwyddiad, sydd yn agored i bawb, yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Gorffennaf am 10yb trwy Zoom a bydd yn cael ei gynnal ar wefan digwyddiad Sioe Frenhinol Cymru.

Ymhlith y prif siaradwyr ar y diwrnod mae Tony Succamore, Cyfarwyddwr Gwerthu a Gweithrediadau, Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd; Georgina Davis, Rheolwr Datblygu Busnes (Canolbarth Lloegr), British Engineering Services; cynrychiolydd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Christopher Maher ac arbenigwr a hyfforddwr diogelwch fferm, Brian Rees. Yn cadeirio'r weminar mae Dirprwy Lywydd UAC ac aelod o fwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd. Ian Rickman.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Tony Succamore: "Pa bynnag ffordd rydych chi'n edrych arno, mae gennym ni heriau Iechyd a Diogelwch difrifol ar ein ffermydd. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae diwydiannau eraill fel adeiladu a chwarela wedi gwella eu cofnodion diogelwch yn fawr, yn anffodus nid yw ffermio wedi gwneud hynny.

“Mae’n frawychus eich bod chi, er gwaethaf popeth, chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd ar fferm nag y byddech chi ar safle adeiladu. Er mwyn cadw'r sylw ar ddiogelwch fferm rydym yn cynnal gweminar arbennig yn sioe Frenhinol Cymru, sydd hefyd yn cyd-fynd ag Wythnos Diogelwch Fferm, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni wrth i ni drafod dyfodol diogelwch fferm yng Nghymru a thu hwnt gydag arbenigwyr blaenllaw'r diwydiant ac amlygu pa gamau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich hun, eich teulu a'ch busnes.”

Gall y rhai sy'n dymuno ymuno â'r weminar trwy Zoom wneud hynny trwy ddilyn y linc hon:

https://us02web.zoom.us/j/87592636249