“Atal Cipio Tir Carbon Corfforaethol yng Nghymru: Cydbwyso carbon, coed a chymunedau gwledig” UAC yn cynnal gweminar brecwast arbennig

Mae cyfuniad o dargedau Sero Net, galw cynyddol i wrthbwyso carbon, a thargedau plannu coed Llywodraeth Cymru’n arwain at gynnydd cyflym ym maint y tir ffermio yng Nghymru sy’n cael ei werthu a’i golli i fuddsoddwyr sydd am elwa ar farchnad garbon y dyfodol.

Er mwyn mynd i’r afael â phryderon ynghylch y duedd hon, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal gweminar brecwast arbennig, dydd Mercher 19 Ionawr drwy Zoom, gan ddechrau am 8yb.  Er mwyn helpu i ddarparu atebion i ffermwyr a llunwyr polisi yng Nghymru, mae panel o ymgyrchwyr, ffermwyr, coedwigwyr a gwyddonwyr pridd yn ymuno ag UAC i gynnal trafodaeth a fydd yn procio’r meddwl.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gadeirio gan Swyddog Polisi UAC, Teleri Fielden, yn clywed gan yr ymgyrchydd ’50 Shades of Green’ Mike Butterick o Seland Newydd, sydd hefyd yn ffermwr gwartheg cig eidion a defaid yn Wairarapa.  Bydd Mr Butterick yn amlinellu sut mae buddsoddi yn y farchnad garbon yn Seland Newydd yn arwain at golli tir ffermio i blanhigfeydd eang o goed pinwydd egsotig heb eu cynaeafu. Mi fydd hefyd yn rhannu eu profiadau a’r gwersi a ddysgwyd i helpu i sicrhau nad yw cymunedau gwledig Cymru’n dilyn ôl eu troed.

Bydd Jerry Langford o Coed Cadw yn trafod sut y gallem gyrraedd y targedau o ran gorchudd coetir heb fygwth y drefn cynhyrchu bwyd, yn bennaf drwy ddefnyddio gwrychoedd, ymylon, ac amaeth-goedwigaeth. Mi fydd hefyd yn siarad am y cyfleoedd sydd ynghlwm â gwell rheolaeth o goetiroedd. 

Bydd Andrew Sowerby, Cadeirydd Confor Cymru’n trafod sut y gellir integreiddio ffermio, coedwigaeth a gwerthiant credyd carbon yn well, a pha gyfleoedd sydd ar gael i ffermwyr i reoli’r galw hwn. 

Bydd cynrychiolydd o Gynghrair Priddoedd Cynaliadwy yn siarad am y cyfleoedd i ddal a storio mwy o garbon mewn priddoedd, a sut y gellir gwobrwyo systemau seiliedig ar borfa o fewn y Cod Carbon Pridd.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Teleri Fielden: “Er bod angen i ni gynyddu dal a storio carbon, cyflenwadau o bren lleol a gorchudd coetir, rhaid peidio â gwneud hynny ar draul ffermydd teuluol a chymunedau gwledig Cymru, nac arwain at golli rhagor o dir i fuddsoddwyr allanol. Sut gallwn ni sicrhau mai ffermwyr a chymunedau gwledig sydd ar flaen y gad o ran atebion carbon, coetir a phren? Bydd hyn a llawer mwy yn cael eu trafod yn ein cyfarfod brecwast arbennig a gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni ar y bore.”

 

Mae’r digwyddiad yn agored i bawb. I fynychu, cofrestrwch ymlaen llaw yma:

https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_rBkeJjsXQUOC3DEiSiSf7w

 Mae’r digwyddiad yn dilyn papur ‘Galwad i Weithredu ar Fasnachu Carbon’ a lansiwyd gan UAC yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru:

https://www.fuw.org.uk/images/CarbonTrading-Cymraeg.pdf