Cyfle i ffermwyr drafod iechyd meddwl a materion ffermio o amgylch bwrdd brecwast UAC Ceredigion

Mae cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal tri digwyddiad brecwast ym mis Chwefror i ddathlu nid yn unig y bwyd cynaliadwy, maethlon y mae ffermwyr yn ei gynhyrchu bob dydd, ond hefyd i gael pobl o gwmpas y bwrdd i siarad am eu pryderon, a’i gobeithion yn ogystal â materion ffermio ehangach.

Cynhelir y digwyddiadau brecwast, sy’n agored i bawb, ddydd Mercher 9 Chwefror yng Nghanolfan Gymunedol Mynach, Pontarfynach, dydd Iau 10 Chwefror yn Neuadd Caerwedros, Caerwedros a dydd Gwener 11 Chwefror yn Neuadd Felinfach, Felinfach.

Mae brecwast yn £10 y pen gyda'r elw yn cael ei roi tuag at elusen Llywydd UAC - y DPJ Foundation.

Wrth siarad cyn y digwyddiadau, dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion, Emma Davies:

“Rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu cynnal y tri digwyddiad brecwast hyn ar ôl i ni eu gohirio oherwydd Covid-19. Mae wythnos frecwast yn adeg bwysig yn ein calendr bob blwyddyn gan ei fod yn rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd gyda ffrindiau, teulu, cymdogion a ffermwyr eraill na fyddwn yn eu gweld yn rheolaidd efallai.

“Rydym yn cael cyfle i rannu ein meddyliau am gyflwr y diwydiant, y gofidiau, pryderon a’r gobeithion hefyd ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Mae’r cwpl o flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni gyd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pawb.”

Mae Brecwast Ffermdy UAC hefyd yn gyfle i drafod y materion ffermio mwyaf allweddol gyda gwleidyddion etholedig, sy’n cael eu gwahodd i ymuno â’r Undeb am frecwast.

Dywedodd cadeirydd UAC Ceredigion, Morys Ioan: “Rydym yn estyn croeso cynnes i’n holl wleidyddion lleol ac yn gobeithio y bydd llawer yn ymuno â ni am frecwast. Mae llawer o bethau i’w trafod a pha ffordd well o wneud hynny na dros baned a brecwast.”

Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich sedd wrth y bwrdd, cysylltwch â swyddfa Ceredigion ar 01570 424515.