Ffermwyr Meirionnydd yn eich gwahodd am frecwast

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn estyn croeso cynnes i aelodau, ffermwyr, ffrindiau, teulu a gwleidyddion lleol i ymuno â nhw am frecwast.  Gan gynnal dau ddigwyddiad brecwast er budd Wythnos Frecwast Ffermdy blynyddol UAC, mae’r gangen leol yn edrych ymlaen at lawer o sgyrsiau ynglŷn â materion ffermio dros baned a brecwast.

Cynhelir y digwyddiadau dydd Llun 7 Chwefror am 9.30yb yng Nghaffi Cymunedol, Dyffryn Ardudwy ac ar ddydd Iau 10 Chwefror am 9.00yb yng Nghaffi Llyn, Trawsfynydd gan obeithio codi arian hanfodol i elusen Llywydd UAC, sef Sefydliad DPJ.

Wrth siarad cyn y digwyddiadau, dywedodd Llywydd Sirol UAC Meirionnydd Euros Puw: “Rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu cynnal y digwyddiadau brecwast hyn ar ôl i ni eu gohirio oherwydd Covid-19. Mae wythnos frecwast yn adeg bwysig yn ein calendr bob blwyddyn gan ei fod yn rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd gyda ffrindiau, teulu, cymdogion a ffermwyr eraill na fyddwn yn eu gweld yn rheolaidd efallai.

“Rydym yn cael cyfle i rannu ein meddyliau am gyflwr y diwydiant, y gofidiau, pryderon a’r gobeithion hefyd ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Mae’r cwpl o flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni gyd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pawb.”

Mae Brecwast Ffermdy UAC hefyd yn gyfle i drafod y materion ffermio mwyaf allweddol gyda gwleidyddion etholedig, sy’n cael eu gwahodd i ymuno â’r Undeb am frecwast.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones: “Rydym yn estyn croeso cynnes i’n holl wleidyddion lleol ac yn gobeithio y bydd llawer yn ymuno â ni am frecwast. Mae llawer o bethau i’w trafod a pha ffordd well o wneud hynny na dros baned a brecwast.”

Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich sedd wrth y bwrdd, cysylltwch â swyddfa Dolgellau ar 01341 422298.