Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cefnogi'r ymgyrch #NacOedwchBrechwch, gan annog ffermwyr i siarad â'u milfeddygon am frechu eu da byw yn erbyn firws y Tafod Glas.
Arweinir yr ymgyrch gan Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, gan gynnwys Canolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru (WVSC) ac Iechyd Da, a'i nod yw annog ac addysgu ffermwyr ynghylch brechu eu da byw.
Tafod Las
Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd feirysol a all fod yn angheuol, sy’n cael ei ledaenu gan wybed. Mae’n effeithio ar anifeiliaid gwyllt a domestig sy'n cnoi cil fel defaid, geifr a gwartheg. Nid yw'n heintio pobl ac nid oes risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.
Ers 1 Gorffennaf 2025, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ar symud da byw o Loegr i Gymru mewn ymateb i ledaeniad firws y tafod glas.
Dylai unrhyw un sy’n cadw da byw gysylltu â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar unwaith ar 0300 303 8268 os ydych chi'n amau y Tafod Glas.
Brechu
Gan nad oes triniaeth ar gyfer y clefyd, mae BTV-3 yn parhau i fod yn fygythiad sylweddol i wartheg a defaid gyda photensial i effeithio ar iechyd anifeiliaid, cynhyrchiant a masnach. Felly, un cam i arafu lledaeniad y clefyd yw brechu.
#NacOedwchBrechwch
Fel rhan o'r ymgyrch #NacOedwchBrechwch, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog unrhyw un sy’n cadw da byw i drafod manteision brechu eu hanifeiliaid gyda'u milfeddyg.
Un ffermwr sydd wedi penderfynu brechu ei dda byw yw'r ffermwr llaeth Michael Williams o Sir Benfro. Wrth wneud sylwadau, dywedodd:
“Rydw i wedi penderfynu brechu oherwydd bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth uchel i ni ar ein fferm. Pan fydd bygythiad newydd yn agosáu, rhaid i ni weithredu'n gyfrifol er budd pawb a chymryd pob cam posib".
Yn y cyfamser, ychwanegodd Is-gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Gwent, Verity Vater, ffermwr defaid ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr:
"Cyn gynted ag anfonodd fy milfeddygon lleol e-bost i ddweud bod y brechlyn Tafod Glas ar gael, mi ffonies i nhw’n syth i drafod y brechlyn.
Mae gennym ni dda byw gwych yng Nghymru, mae brechu yn ffordd y gallwn ni i gyd eu hamddiffyn rhag y Tafod Glas."
Am ragor o wybodaeth am y Tafod Glas, cysylltwch â'ch milfeddyg lleol neu ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu Strategaeth Troseddau Gwledig tair blynedd newydd i Gymru a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd heddiw.
Lansiwyd Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad Cymru (2025-2028) i wella diogelwch cymunedau gwledig a bywyd gwyllt ledled Cymru.
Wedi'i chyhoeddi yng Nghynhadledd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, a fynychwyd gan bron i 100 o gynrychiolwyr, mae'r strategaeth yn parhau â'r cydweithio rhwng heddluoedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn dilyn lansiad blaenorol y strategaeth gychwynnol yn 2023.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog Huw Irranca-Davies bod troseddau gwledig yn faterion sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys ei gysylltiadau â throseddu cyfundrefnol, a phwysleisiodd rôl hanfodol cydweithio aml-bartner.
Mae'r strategaeth newydd yn amlinellu chwe maes blaenoriaeth: Troseddau Adar, Troseddau Fferm, Cynefinoedd, Troseddau Treftadaeth, Mamaliaid a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, a Gwasanaethau Cymorth Rhwydweithio Gwledig - mae'r olaf yn unigryw gan ei fod yn mynd i'r afael â gwendidau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ariannu swydd Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru am dair blynedd arall, gan gydnabod y rôl ganolog y mae'r swydd hon yn ei chwarae wrth gydlynu ymdrechion ledled y wlad.
Yn ogystal, cyhoeddodd Heddlu Gwent gynlluniau i ehangu’r tîm troseddau gwledig, gan gryfhau galluoedd gorfodi a darparu gwell cefnogaeth i gymunedau ffermio a diogelu bywyd gwyllt ledled y rhanbarth.
Wrth wneud sylwadau yn dilyn lansiad Strategaeth Troseddau Gwledig Cymru, dywedodd Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gemma Haines:
“Mae troseddau gwledig yn parhau i achosi niwed emosiynol ac economaidd sylweddol i ffermwyr Cymru.
Felly mae Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu'r Strategaeth Troseddau Gwledig newydd, yn enwedig yr ymrwymiad y bydd Troseddau Fferm yn cael sylw dros y tair blynedd nesaf.
Mae ein haelodau wedi bod yn dadlau ers tro am fwy o bwyslais ac adnoddau gan heddluoedd Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac rydym yn obeithiol y bydd y strategaeth hon yn sbardun hanfodol ar gyfer gweithredu.
"Mae ehangu tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gwent yn ddatblygiad arbennig o galonogol, ac rydym yn parhau i annog heddluoedd Cymru i sicrhau bod adnoddau a mecanweithiau cymorth digonol yn cael eu neilltuo i fynd i'r afael â throseddu yn ein cymunedau gwledig."
Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu swydd Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru am dair blynedd arall, ac yn edrych ymlaen at barhau â'n cydweithrediad agos i fynd i'r afael â throseddau gwledig."
Mae rhagor o fanylion am lansio’r Strategaeth Troseddau Gwledig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Eleni, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn nodi ei phen-blwydd yn 70 oed, a dathlwyd y garreg filltir arwyddocaol hon yn eu Cynhadledd Fusnes Blynyddol, a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar Fehefin 12fed a 13eg.
Daeth dros gant o staff ac uwch swyddogion o'r Undeb a Gwasanaethau Yswiriant FUW ynghyd i rwydweithio, edrych nôl ar y flwyddyn ddiwethaf, a choffáu saith degawd ers sefydlu'r Undeb ym 1955.
Roedd agenda’r gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad gan Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb, yn edrych nôl ar dwf y busnes dros y flwyddyn. Bu trafodaeth banel, yn cynnwys Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, Ann Beynon OBE, ac Aelod o’r Bwrdd, Louise Coulton, yn ogystal â Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, a’r Ffermwr Gyfarwyddwr, Gareth Lloyd, hefyd yn ymchwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r busnes a’r sector amaethyddol ehangach.
Derbyniodd y gynhadledd gefnogaeth gref gan dros ugain o bartneriaid busnes, gyda FarmWeb - un o bartneriaid yswirwyr Gwasanaethau Yswiriant FUW - yn noddi'r gynhadledd. Yn y cyfamser, noddodd MSAmlin ginio'r gynhadledd, gyda Close Brothers Finance yn noddi derbyniad diodydd cyn y cinio.
Gwobrau
Yn ogystal â’r cyfle i edrych nôl ar y flwyddyn, roedd y Gynhadledd hefyd yn gyfle i gydnabod ac amlygu gwaith staff Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW drwy gydol y flwyddyn, gyda chyflwyniad o wobrau wedi ei noddi gan yr yswiriwr moduron arbenigol, ERS.
Cyflwynwyd Gwobr Tîm Gorau Undeb Amaethwyr Cymru i Adran Gyllid Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd y wobr yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff wrth reoli cyllid Undeb Amaethwyr Cymru yn effeithiol, gyda gwaith gofalus ac effeithiol y tîm yn aml yn ennill canmoliaeth gan archwilwyr allanol.
Cyflwynwyd Gwobr Meurig Voyle i Joyce Owens, Cynorthwyydd Gweinyddol yn swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru yng Nghaerfyrddin, ac mae’n cael ei gyflwyno i aelod o staff sydd wedi dangos ymrwymiad, teyrngarwch, cefnogaeth a brwdfrydedd tuag at yr undeb. Mae Joyce wedi gweithio i Undeb Amaethwyr Cymru ers dros 20 mlynedd, gan weithio'n effeithiol fel cyswllt allweddol rhwng yr undeb a'i haelodaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd yn ddathliad dwbl i Joyce, wrth i dîm Undeb Amaethwyr Cymru Caerfyrddin hefyd ennill Gwobr Owen Slaymaker, a roddir yn flynyddol i'r gangen sirol sydd wedi hyrwyddo buddiannau aelodau ac Undeb Amaethwyr Cymru orau. Yn ogystal â gwasanaethu'r aelodaeth yn Sir Gaerfyrddin, mae'r tîm hefyd wedi cefnogi aelodau ledled Sir Forgannwg yn effeithiol dros y misoedd diwethaf. Roedd y wobr yn arbennig o amserol eleni, wrth i Undeb Amaethwyr Cymru ddathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin.
Cyflwynwyd gwobrau i staff Gwasanaethau Yswiriant FUW hefyd mewn cyflwyniad a noddwyd gan y cwmni yswiriwr moduron arbenigol, ERS.
Enillodd yr Uwch Weithredwr Yswiriant, Sam Evans, y Wobr Datblygu Busnes yn cydnabod y twf mwyaf mewn portffolio unigol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Sam wedi sicrhau llawer iawn o dwf trwy'r lefel arbennig o wasanaeth y mae'n ei gynnig i gwsmeriaid presennol a newydd. Cyflwynodd Sam ei wobr i'w diweddar ffrind a chydweithiwr, Will Beynon, a fu farw yn gynharach eleni.
Cafodd Sophie Pritchard a Lowri Williams o Lanrwst eu cydnabod am eu gwaith hefyd, gyda Sophie yn ennill y wobr am y Portffolio a Reolir Orau gan Weithredwr Yswiriant, a Lowri Williams yn ennill y wobr am y Portffolio a Reolir Orau gan Gydlynydd Cyfrif. Roedd y gwobrau'n cydnabod eu hymdrechion i reoli eu portffolio mewn manylder, bodloni dangosyddion perfformiad allweddol a bod ar frig y gynghrair ym mhob archwiliad. Hyn i gyd wrth gyrraedd lefel arbennig o dwf gwerthiant.
Yn olaf, enillodd Heulwen Thomas, sy’n gweithio yn Llanbed, wobr Cydlynydd Cyfrif y flwyddyn. Mae Heulwen yn rhan annatod o dîm Llanbed, lle mae hi'n hynod gydwybodol ac yn gweithio i'r safonau uchaf. Heulwen yw arwres dawel y cwmni gan weithio'n dawel ac yn bwyllog yn y cefndir, felly roedd yn briodol bod ei chyfraniad yn cael ei gydnabod.
Wrth wneud sylwadau yn dilyn cynhadledd lwyddiannus, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
"Roedd Cynhadledd Fusnes Blynyddol eleni yn achlysur arbennig iawn, gan nodi 70 mlynedd ers sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yn gyfle gwych i ddod â'n timau o'r Undeb a Gwasanaethau Yswiriant FUW ynghyd, dathlu ein cyflawniadau ac edrych ymlaen at ddyfodol amaethyddiaeth.
Ymroddiad a gwaith caled ein staff yw asgwrn cefn ein llwyddiant, ac roedd yn fraint cydnabod eu cyfraniadau arbennig drwy'r seremoni wobrwyo. Rydym yn hynod falch o'n holl enillwyr ac yn wir, pob aelod o'n tîm sy'n parhau i yrru ein twf fel busnes, ac yn gweithio'n ddiflino i wasanaethu anghenion cefn gwlad Cymru.”
Ychwanegodd Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, Ann Beynon OBE:
"Ni fyddai llwyddiant ein Cynhadledd Fusnes Blynyddol wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth anhygoel ein partneriaid busnes gwerthfawr. Rydym yn ddiolchgar iawn i FarmWeb am eu nawdd i'r gynhadledd, ac i'n holl bartneriaid eraill a gefnogodd y ddau ddiwrnod llwyddiannus. Mae eu hymrwymiad parhaus i'n digwyddiad yn tanlinellu'r partneriaethau cryf rydym wedi'u hadeiladu sy'n caniatáu i'r busnes barhau i dyfu o nerth i nerth."
Roedd yr awyrgylch drwy gydol y ddau ddiwrnod yn hynod gadarnhaol. Roedd hi’n arbennig o ysbrydoledig gweld cymaint o gydweithwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau a rhwydweithio ystyrlon, gan adlewyrchu cryfder yr ysbryd cydweithredol sy'n gyrru ein llwyddiant ar y cyd.
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam fis Awst eleni, mae’n bleser gan gangen Undeb Amaethwyr Cymru Dinbych a Fflint gyflwyno’r Gadair ar gyfer y brifwyl arbennig.
Cafodd y Gadair a’r Goron eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y brifwyl mewn seremoni arbennig yng Ngholeg Cambria ar Nos Fawrth 17 o Fehefin, gyda swyddogion o Undeb Amaethwyr Cymru yn bresennol, gan gynnwys ein Cadeirydd Sirol Dinbych, Gwion Owen, a Chadeirydd Fflint, Tim Faire.
Cafodd y Gadair ei chrefftio gan Gafyn Owen a’i bartner busnes Sean Nelson o gwmni MijMoj Design yn eu gweithdy yn y Fflint. Daw’r coed o’r Gadair o ystâd Erddig ger Wrecsam.
Mae’r gadair yn ymgorffori pedwar prif thema sy’n adlewyrchu cymuned a hanes Wrecsam - sef glo, pêl-droed, traphont ddŵr a bragdai.
Mae cefn y Gadair yn adlewyrchu bwa traphont ddŵr Pontcysyllte, tra fod rhan uchaf y Gadair yn cymryd ysbrydoliaeth o siâp to’r Cae Ras, stadiwm bêl-droed y ddinas. Mae’r Gadair hefyd yn cynnig teyrnged i ddamwain erchyll ym mhwll glo Gresffordd yn 1934 a laddodd 261 o ddynion. Ceir hefyd crebwyll yn y darn i fragdai hanesyddol yr ardal.
Cyflwyniwr y Gadair m awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 llinell, ar y testun ‘Dinas’. Cynhelir seremoni Cadeirio’r Eisteddfod ar ddydd Gwener 8 Awst, gyda’r wobr ariannol yn cael ei rhoi gan Goleg Cambria.
Mae nifer o fudiadau, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn amlygu eu pryderon ynghylch seilwaith lladd-dai lleol yng Nghymru.
Mae’r llythyr i Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi'i gyd-lofnodi gan 8 sefydliad, gan gynnwys, Y Rhwydwaith Ffermio sy'n Gyfeillgar i Fyd Natur, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Pasture for Life, Plantlife Cymru, Rare Breeds Survival Trust, RSPB Cymru, Sustainable Food Trust ac Undeb Amaethwyr Cymru.
Ym 1990 roedd 58 o ladd-dai cig coch yng Nghymru, dim ond 15 sydd erbyn heddiw, gyda phump o'r rhain yn cael eu galw’n rhai bach. Mae hyd yn oed llai yn gallu darparu'r holl wasanaethau sydd angen ar ffermwyr er mwyn gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr lleol, fel cigydda, pecynnu, prosesu niferoedd bach o anifeiliaid, anifeiliaid amlrywogaeth, cael ardystiad organig, a'r gallu i ddelio ag anifeiliaid corniog, neu'r rhai 'dros dri deg mis' (OTM).
Mae'r mater hwn yn peryglu gallu ffermwyr Cymru i werthu ac yn gwahaniaethu eu cynhyrchion oddi wrth fewnforion a gynhyrchir i safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid is.
Amlygodd cydlofnodion y llythyr yn rôl greiddiol da byw sy’n pori wrth reoli a gwella cynefinoedd ledled Cymru, o fawndiroedd i forfeydd heli, glaswelltiroedd sy’n gyfoeth o rywogaethau i rostiroedd, ffriddoedd a 'Choetiroedd Celtaidd'. Mae ategu'r pori hwn gyda'r gallu i werthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr, yn cefnogi cynaliadwyedd economaidd busnesau ffermio trwy werthiannau 'gwerth ychwanegol'.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn glir, os yw Llywodraeth Cymru eisiau hyrwyddo ‘economi gylchol’ a sicrhau y gellir marchnata cynnyrch Cymru a gynhyrchir i safonau amgylcheddol uchel fel y cyfryw, yna mae seilwaith lladd-dai yn hanfodol. Nid yw’r ffaith bod mewnforion cig oen Awstralia a Seland Newydd wedi cynyddu 78%, ar yr un pryd â bod ffermwyr yng Nghymru yn cael trafferth gwerthu eu cynnyrch yn lleol, yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae sefyllfa o’r fath yn tanseilio’r ymdrechion y mae ffermwyr yn eu gwneud i wella bioamrywiaeth, gwerth maethol, a chynnyrch carbon isel a werthir i ddefnyddwyr Cymru, yn ogystal ag uniondeb statws ‘Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig’ Cig Oen a Chig Eidion Cymru.
"Mae Pwyllgor Da Byw a Ffermio Mynydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dymuno gweld y Llywodraeth yn darparu cefnogaeth ychwanegol i ladd-dai yn sgil rheoleiddio cynyddol a beichus, costau rhedeg a phroblemau capasiti milfeddygol. Mae'r llythyr hefyd yn annog y Llywodraeth i sicrhau bod gostyngiad Asiantaeth Safonau Bwyd i ladd-dai bach yn cael ei gynnal, eu bod yn cydnabod rhwydwaith y lladd-dai fel 'seilwaith hanfodol i Gymru', a gweithio gyda'r diwydiant i archwilio atebion fel cynlluniau grant cyfalaf.”
Mae problemau eraill sy'n wynebu lladd-dai yn cynnwys 'sgil-gynhyrchion anifeiliaid' (fel crwyn neu offal) a oedd yn arfer bod yn ffrwd o incwm i ladd-dai ac a gyfrannodd at economi gylchol, ond sydd bellach yn gost ychwanegol oherwydd ffioedd gwaredu.
Ychwanegodd Teleri Fielden, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae ffermwyr yng Nghymru yn falch o’n safonau lles anifeiliaid uchel ac ansawdd bywyd ein hanifeiliaid sy’n pori. Er eu bod allan o reolaeth y ffermwyr, mae teithiau byr i’r lladd-dy yn rhan o hyn, fel y mae mynediad at wasanaethau lladd brys. Fodd bynnag, dim ond un lladd-dy yng Nghymru sydd â’r ‘contract’ i dderbyn adweithyddion TB, gan greu teithiau hir a straen ychwanegol i’r anifail a’r ffermwr sy’n profi achos o TB mewn gwartheg.
"Fel mae'r llythyr yn ei amlinellu, mae'r golled syfrdanol o ladd-dai bach a lleol yng Nghymru, fel ar draws gweddill y DU, yn peri bygythiad i ffermio cynaliadwy, adfer bioamrywiaeth, cynnyrch Cymru, economi gylchol Cymru a lles anifeiliaid. Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at ddod o hyd i atebion i'r mater hwn drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r diwydiant ehangach.”
Gellir darllen y llythyr yn llawn drwy ddilyn y ddolen yma: https://fuw.org.uk/en/wales-local-abattoir-network
- Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud wrth y Pwyllgor Materion Cymreig bod “Trysorlys EM wedi cau’r drws yn glep yng ngwyneb y diwydiant ac wedi taflu’r allwedd”
- Cystadleuaeth ffotograffiaeth i greu calendr 2026
- Cynnydd y Senedd ar Bil Ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn cael ei groesawu gan undeb ffermio Cymreig
- Undeb Amaethwyr Cymru yn ymateb i argymhellion Pwyllgor San Steffan ar newidiadau i Ryddhad Eiddo Amaethyddol