fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Dros 1,000 o ffermwyr yn mynychu cyfarfodydd Undeb Amaethwyr Cymru i ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Dros 1,000 o ffermwyr yn mynychu cyfarfodydd Undeb Amaethwyr Cymru i ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mynychodd ymhell dros 1,000 o ffermwyr o bob rhan o Gymru gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a drefnwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru, wrth i sector amaeth baratoi ar gyfer y newid polisi mwyaf arwyddocaol mewn cenhedlaeth – y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cynhaliwyd un ar ddeg o ddigwyddiadau drwy gydol yr hydref mewn lleoliadau ledled Cymru, gan gynnig gwybodaeth fanwl a chyngor ymarferol cyn lansiad swyddogol y Cynllun newydd ar 1 Ionawr 2026.

Yn ystod y cyfarfodydd cafodd ffermwyr gyfle i wrando ar gyflwyniadau gan Dîm Polisi a Swyddogion Sir Undeb Amaethwyr Cymru.  Darparwyd esboniadau clir am fanylion y Cynllun – gan gynnwys meini prawf cymhwysedd, strwythur talu, a'r broses raddol o leihau’r Cynllun Taliad Sylfaenol presennol. Cafwyd cyfle hefyd i ddysgu am ystod o wasanaethau cymorth ymarferol gan yr Undeb, megis help gyda gwaith papur, cyngor gan ddarparwyr lleol, ac arweiniad gan arbenigwyr wrth lywio’r cyfnod trosglwyddo.

Gan bwysleisio gwerth y cyfarfodydd, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynrychioli newid aruthrol i’n diwydiant. Mae’n amlwg o’r cyfarfodydd hyn fod gan ffermwyr lawer o gwestiynau ynglŷn â’r dyfodol.

Wrth i ffermwyr sefyll ar groesffordd hanesyddol, mae’n hollbwysig eu bod yn deall yr opsiynau sydd ar gael iddynt – boed hynny’n ddewis i ymuno â’r Cynllun newydd neu barhau â’r Taliad Sylfaenol fydd yn lleihau’n raddol.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yma i gefnogi ffermwyr bob cam o’r daith. Mae ein timau lleol a phrofiadol a’n harbenigwyr polisi wrth law i ddarparu’r wybodaeth a’r cymorth angenrheidiol.”

Ychwanegodd Gareth Parry, Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru:

“Rydym wedi siarad yn uniongyrchol â dros 1,200 o ffermwyr dros yr wythnosau diwethaf, ac mae staff yr Undeb wedi teithio dros 3,000 o filltiroedd i gynnig y sesiynau hyn.

Mae lefel yr ymgysylltu wedi bod yn eithriadol, gyda chwestiynau craff yn codi ynghylch sut yn union fydd y Cynllun yn gweithredu ar lawr gwlad.

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cyflwyno newidiadau sylweddol, ac mae’n hanfodol bod gan bob ffermwr fynediad at y wybodaeth gywir i wneud penderfyniadau hyderus ar gyfer eu busnes.”

Fel rhan o’r ymdrech barhaus i gefnogi’r sector, defnyddiodd Undeb Amaethwyr Cyrmu y digwyddiadau i gyflwyno eu pecyn aelodaeth newydd – a ddyluniwyd yn benodol er mwyn darparu’r cymorth cywir i ffermwyr wrth iddynt addasu i’r Cynllun newydd.

Dywedodd Guto Bebb, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru:

“O ystyried maint y newidiadau sydd ar y gweill, roedd yn hanfodol i ni ddatblygu pecyn aelodaeth cryfach sy’n sicrhau mynediad i gyngor arbenigol, cynrychiolaeth gadarn a gwasanaethau ymarferol pan fo ffermwyr eu hangen fwyaf.

Mae’r adborth o’n cyfarfodydd yn dangos yn glir bod ffermwyr yn gwerthfawrogi cael sefydliad megis yr Undeb yn eu cefnogi – Undeb sy’n siarad ar eu rhan, yn eu cefnogi, ac yn gweithio i ddiogelu dyfodol ffermydd teuluol yng Nghymru.”

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i ddarparu cyngor ac arweiniad i ffermwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Anogir ffermwyr i gysylltu â’u swyddfa leol neu ffonio 01970 820 820 i gael rhagor o wybodaeth a chymorth ymarferol.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image