fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig ar amaeth yng Nghymru

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig ar amaeth yng Nghymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu adroddiad newydd gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan, sy’n beirniadu Llywodraeth y DU am fethu “llwyddo i feithrin a chynnal hyder ffermwyr yng Nghymru.”

Ym mis Mawrth 2025, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad i ddyfodol ffermio yng Nghymru, gan holi am dystiolaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru a sefydliadau ffermio eraill yng Nghymru ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu amaethyddiaeth Cymru, ochr yn ochr ag effaith polisi Llywodraeth y DU ar y sector.

Yn ei adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at gyd-destun unigryw amaethyddiaeth yng Nghymru, sy'n meddiannu dros 90% o arwynebedd tir Cymru, ac sy'n cyflogi 11% o gyfanswm gweithlu amaethyddol y DU er gwaethaf cynnwys llai na 5% o'i gyfanswm poblogaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf cyfrannu at sector bwyd a diod gwerth dros £9.3 biliwn i economi Cymru, mae ffermio Cymru wedi gweld lleihad yn y gweithlu, niferoedd da byw, ac incwm is nag unrhyw le arall yn y DU. Mae'r Pwyllgor yn nodi sector sy'n "wydn ond o dan straen enfawr a bod amgylchedd polisi’r DU yn rhy aml yn anwybyddu natur unigryw ffermio yng Nghymru."

Mae'r adroddiad yn rhoi sylw arbennig i ddiwygiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i'r dreth etifeddiaeth, gan fynegi pryder ynghylch y diffyg eglurder ynghylch yr effaith posib ar ffermio yng Nghymru. Mae aelodau'r pwyllgor yn rhybuddio y gallai'r newidiadau effeithio’n annheg ar ffermwyr oedrannus a'r rhai â salwch terfynol sydd wedi strwythuro eu materion yn unol â chyngor treth bresennol. Heb arweiniad pellach, mae'r unigolion hyn mewn perygl o adael eu teuluoedd yn wynebu beichiau treth annisgwyl a sylweddol ar ôl iddynt farw.

Mae'r Pwyllgor yn cyhuddo Gweinidogion y DU o fod yn ddifater wrth fethu â chynnal unrhyw asesiad o'r effaith y byddai'r newidiadau yn cael ar ffermio yng Nghymru, gan achosi “ofn ac ansicrwydd i’r rheini sy’n ffermio yng Nghymru", ac yn galw ar y Llywodraeth i ohirio gweithredu’r diwygiadau treth etifeddiaeth nes y cynhelir Asesiad Effaith penodol i Gymru.

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan Undeb Amaethwyr Cymru ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i ‘Barneteiddio’ cyllid amaethyddol Cymru. Yn eu tystiolaeth lafar, rhybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru nad yw’r dull hwn yn adlewyrchu anghenion penodol amaethyddiaeth Cymru ac yn cyfateb i doriad yng nghyllideb y sector. Mae adroddiad y Pwyllgor yn annog y Trysorlys a Swyddfa Cymru i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r newid hwn yn arwain at ostyngiad nac yn rhoi llai o flaenoriaeth i gefnogaeth i ffermwyr Cymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at effaith annheg cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd ar ffermio Cymru, ac yn codi pryderon ynghylch effeithiau posibl trafodaethau masnach barhaus gyda gwledydd eraill. Mae'n pwysleisio'r angen am weledigaeth hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth Cymru sy'n creu llwybrau clir i ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid, gan adlewyrchu'r argymhellion a nodir yn adroddiad Mandad i Ffermwyr y Dyfodol Undeb Amaethwyr Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn galw am fwy o sylw ar ddiogelu’r cyflenwad bwyd a hyrwyddo arferion ffermio cynaliadwy yn economaidd ledled Cymru.

Mae’r pwyllgor yn nodi “Mae ffermio yng Nghymru yn wahanol i ffermio yn Lloegr, ac mae’n rhaid adlewyrchu’r gwahaniaethau hyn mewn polisïau DU gyfan”. Maent yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru “gynnal effaith penodol i Gymru yn cyd-fynd ag unrhyw bolisi sy’n effeithio ar amaethyddiaeth Cymru, dan arweiniad Swyddfa Cymru ac adran berthnasol Llywodraeth y DU.”

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae’r adroddiad hwn yn anfon neges glir ac amserol at Lywodraeth y DU: ni all ffermio yng Nghymru barhau i gael ei drin fel ôl-ystyriaeth. Mae’r Pwyllgor wedi cydnabod natur unigryw amaethyddiaeth Cymru - ei raddfa, ei chyfraniad at ein heconomi, a’i rôl hanfodol wrth gynnal cymunedau gwledig. Serch hynny, yn rhy aml o lawer, mae polisïau Llywodraeth y DU yn methu â chydnabod ac ystyried yr amgylchiadau penodol hynny.

"Mae’r newidiadau arfaethedig i’r dreth etifeddiaeth a’r broses o ‘Barneteiddio’ cyllid amaethyddol yn bygwth tanseilio cynaliadwyedd hirdymor ffermydd teuluol Cymru - ar adeg pan fo’r diwydiant eisoes yn wynebu storm berffaith o gostau cynyddol, marchnadoedd anwadal ac ansicrwydd parhaus am y dyfodol.

"Wrth inni agosáu at Gyllideb yr Hydref, rhaid i’r Canghellor gymryd y canfyddiadau hyn o ddifrif, a sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol yn amddiffyn ffermydd teuluol Cymru, yn cryfhau ein diogelwch bwyd, ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth Gymreig.

"Rydym yn diolch i Aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig am gynhyrchu’r adroddiad hwn ar gyflwr presennol ffermio yng Nghymru, ac am dynnu sylw at yr angen brys i sicrhau bod nodweddion unigryw cefn gwlad Cymru yn cael eu hystyried yn llawn wrth lunio polisi yn y dyfodol.”

Dolen i adroddiad llawn y Pwyllgor Materion Cymreig ar gael yma.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image