fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Diwrnod Sir Drefaldwyn yn dod â'r gorau o fwyd, ffermio a thwristiaeth lleol i'r Senedd

Diwrnod Sir Drefaldwyn yn dod â'r gorau o fwyd, ffermio a thwristiaeth lleol i'r Senedd

Cynhaliodd Aelod Senedd Sir Drefaldwyn, Russell George AS, ynghyd a changen Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn, Ddiwrnod Sir Drefaldwyn yn y Senedd yr wythnos hon (11 Tachwedd), gan arddangos cynhyrchwyr, sefydliadau a busnesau’r sir i Aelodau, swyddogion a rhanddeiliaid. 

Dathlodd y digwyddiad ehangder menter wledig Maldwyn - o ffermydd teuluol a gwlân treftadaeth i fwyd a diod, a phrofiadau twristiaeth unigryw - gan roi llwyfan i fusnesau wneud cysylltiadau newydd a rhannu blaenoriaethau ar gyfer twf a chefnogaeth.

Teithiodd Ysgol Gymraeg Y Trallwng i berfformio cyfres o ganeuon ar gyfer y digwyddiad. Roedd hyn yn arbennig o boblogaidd gydag Aelodau'r Senedd, gan gynnwys y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS, a ymunodd â nhw ar y llwyfan i ganu Calon Lân.

Ymhlith yr arddangoswyr roedd Undeb Amaethwyr Cymru,, Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn (YFC), Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain, Graig Farm Organics, Vintage Land Rover Tours, Wild Welsh Wool, Get Jerky, Cambrian Training, Caws Gynog, Montgomery Waters, Radnor Preserves, Sun Gin, Neuadd Bettws, Bragdy Montgomery, Stryd Fawr Cymru a Thwristiaeth Canolbarth Cymru. 

Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Russell George AS am gynnal y digwyddiad gwych hwn, a ddaeth â’r gorau o Sir Drefaldwyn i galon Bae Caerdydd. Roedd yn bleser gweld cymaint o gynhyrchwyr, busnesau gwledig a sefydliadau cymunedol yn dod ynghyd i arddangos yr ansawdd, yr arloesedd, a’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n diffinio ein hardal - ac i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae amaethyddiaeth yn parhau i’w chwarae yn yr economi wledig ehangach.

"Roeddem hefyd wrth ein bodd gyda’r presenoldeb trawsbleidiol cryf gan Aelodau’r Senedd. Uchafbwynt penodol oedd gweld y Prif Weinidog yn ymuno â disgyblion Ysgol Gymraeg Y Trallwng ar y llwyfan ar gyfer perfformiad gwych o Calon Lân - eiliad a gipiodd ysbryd y diwrnod yn berffaith.”

Dywedodd Russell George AS: “Mae Diwrnod Sir Drefaldwyn yn rhoi llwyfan cenedlaethol i’n busnesau a’n sefydliadau lleol. Roedd yr ansawdd, y grefft a’r arloesedd a ddangoswyd yn y Senedd yn siarad drostynt eu hunain - mae ein hardal yn un sy’n rhagori.

"O fwyd a diod i wlân, lletygarwch a phrofiadau awyr agored, mae’r mentrau hyn yn creu swyddi, yn cynnal cadwyni cyflenwi ac yn cadw ein cymunedau’n fywiog. Rwy’n ddiolchgar i bob arddangoswr a deithiodd i Fae Caerdydd ac i gydweithwyr a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth.

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i blant Ysgol Gymraeg Y Trallwng am eu perfformiad ysblennydd, a hefyd i Undeb Amaethwyr Cymru am eu cymorth wrthi gynnal digwyddiad mor llwyddiannus a gafodd ei gefnogi mor dda.”

 

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image