Llywodraeth Cymru’n lansio cynllun cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cynllun Cymorth BPS yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn yn olynol er mwyn darparu hawlwyr â’r cymorth a’r hyblygrwydd sydd ei wir angen yng sgil pandemig Covid-19.

Bydd y cynllun yn talu benthyciad o hyd at 90% o werth disgwyliedig hawliad BPS y busnes o 7 Rhagfyr, i ymgeiswyr llwyddiannus ac i’r rhai nad yw eu hawliad BPS llawn wedi’i brosesu.

Bydd angen ‘optio i mewn’ i’r cynllun a bydd modd gwneud cais drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein o 1 Medi hyd 27 Tachwedd 2020.

Mewn rhai achosion ni fydd taliad cynllun cymorth yn briodol ac mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn y canllawiau ar RPW Ar-lein. Er enghraifft, os oes gennych grant profiant heb ei setlo neu os na fydd y taliad balans yn adlewyrchu’r cosbau sy’n gysylltiedig â’r hawliad.

Bydd RPW yn sicrhau bod hawlwyr y mae eu ceisiadau am y cynllun cymorth yn cael eu gwrthod yn cael blaenoriaeth wrth brosesu i sicrhau bod pawb yn derbyn un ai daliad llawn neu daliad cymorth mor gynnar â phosib.

Mae FUW yn annog ei holl Aelodau i wneud cais am y cynllun cymorth ac i gysylltu â Staff FUW Sirol lleol am gymorth os oes angen.